Mae gan Copr, ein lolfa gynnes, soffistigedig, breifat i aelodau, ei bar ei hun a thoiledau neillryw.
Gyda’i dodrefn a wnaed â llaw, tecstilau prydferth gan ddylunwyr o Gymru a’i goleuo cynnil, atmosfferig, mae Copr yn lleoliad perffaith ar gyfer derbyniad, cinio hamddenol, parti ar ôl sioe neu fel lleoliad ffilmio. Mae’n agos i Theatr Donald Gordon, Ystafell Japan ac Ystafell Preseli, felly mae’n hawdd ei defnyddio cyn neu ar ôl y prif ddigwyddiad.
Gwybodaeth bwysig
Capasiti: | |
Yn sefyll: | 30 |
Yn eistedd: | 22 |
Dimensiynau: | 118m2 |
Cyfleusterau technegol: | Wi-Fi. Sgriniau teledu gyda’r gallu i gyflwyno PowerPoint. |
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd: | Mynediad drwy lifft i’r llawr cyntaf. Toiledau preifat ac ardal bar. |