Bariau’r Theatr
Mae rhywbeth arbennig ynglŷn â chynnal digwyddiad o dan ein harysgrif eiconig.
Mae ein tri bar theatr yn cynnig mannau unigryw ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio, arddangosfeydd, derbyniadau a lletygarwch. Gan gyfuno pensaernïaeth nodedig gyda chynlluniau hyblyg, maent yn creu lleoliadau cofiadwy ar gyfer digwyddiadau preifat a chorfforaethol.
Os ydych chi’n chwilio am gyffyrddiad personol ychwanegol, gellir goleuo'r arysgrif yn lliwiau eich brand, gan greu cefndir trawiadol i'ch gwesteion a ffotograffiaeth o’r digwyddiad.
5 llun
Angen gwybod
Bar Awen
Capasiti: Sefyll 400
Dimensiynau: 392m2, Hyd 49m, isafswm lled 3.8m, uchafswm lled 8m
Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi
Bar Horizons
Capasiti: Sefyll 250
Dimensiynau: 228m2, Hyd 38.3m, isafswm lled 3.6m, uchafswm lled 6m
Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi
Bar Stones
Capasiti: Sefyll 250
Dimensiynau: 228m2, Hyd 38.1m, isafswm lled 3.7m, uchafswm lled 6m
Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi
Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol
Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch.