Mae ei chyfuniad o ofod a golau yn gwneud Ystafell Preseli yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau preifat a chorfforaethol.
Rydyn ni’n ei defnyddio’n bennaf fel ystafell ymarfer ac ar gyfer creu gwaith artistig newydd. Gyda’r gwaith celf arbennig ‘Colourfall’ gan yr artist o Gymru, Amber Hiscott, yn rhan ohoni, mae wal wydr yr ystafell yn gadael i olau lifo i mewn o’r ardal Angorfa islaw, yn ogystal â golau naturiol o ffenestri allanol yr ystafell.
Dyma ein hystafell gyfarfod fwyaf, ac mae hi wedi’i lleoli ar Lefel 2, gerllaw ein Bar Awen, sydd dan arysgrif yr adeilad. Y lle perffaith am ginio neu ddiodydd ar ddiwedd y dydd, a lleoliad da i roi standiau arddangoswyr sy’n gysylltiedig â chynhadledd.
Gwybodaeth bwysig
Capasiti: | |
Theatr: | 130 |
Derbyniad: | 80 |
Gwledda: | 80 |
Cabaret: | 70 |
Ystafell Bwrdd: | 30 |
Ystafell Ddosbarth: | 28 |
Dimensiynau: | Hyd: 13.9m Lled (pen cul): 7.92m Lled (pen llydan): 11m |
Cyfleusterau technegol: | Wi-Fi. Gellir gosod llwyfan bach, darllenfa, system PA a sgrin yn yr ystafell fel sydd angen. |
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd: | Mynediad drwy lifft i’r ail lawr. |