Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

O gyrraedd yr ŵyl i wirfoddoli, cymerwch olwg ar ein cwestiynau cyffredin...

Pryd a ble mae'r ŵyl?

Cynhelir gŵyl eleni rhwng 26 a 30 Hydref 2022 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd, CF10 5AL. Manylion y lein-yp yn dod cyn hir.

Mae modd cyrraedd Bae Caerdydd yn hawdd ar y bws, trên, car, beic neu dacsi dŵr. Rhagor o wybodaeth am sut i gyrraedd.

Beth dylwn i wneud wrth gyrraedd?

Wrth gyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru, dangoswch y cod QR a dderbynioch ar ôl archebu eich tocyn.

Does dim angen argraffu eich tocyn – cadwch yr e-docyn yn ddiogel yn eich ebost neu ychwanegwch hi at Apple Wallet neu Google Wallet, a dangoswch y cod QR wrth gyrraedd.

Os ydych chi wedi archebu sawl tocyn, gallwch chi eu rhannu â’ch grŵp drwy ebost neu neges destun. Rhannwch yn ofalus. Ni fydd cod QR yn weithredol ar ôl ei sganio wrth i chi ddod i mewn.

Mae eich tocyn yn sicrhau mynediad at yr artistiaid sy’n perfformio ar brif lwyfan Theatr Donald Gordon.

Ble alla i aros yn ystod yr ŵyl?

Mae pob math o lety ar gael yng Nghaerdydd yn addas i bob cyllideb – o westai moethus i hostelau, llefydd rhad ac Airbnb. Edrychwch ar wefan Croeso Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth.

Rydyn ni hefyd yn cynnig bargeinion drwy westy Future Inns. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Llety.

Alla i wirfoddoli yn yr ŵyl?

Gallwch. I ddysgu rhagor am wirfoddoli yma, ewch i'r adran Gwirfoddolwyr ar ein gwefan.

A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?

Oes, mae Tocynnau Dydd Gŵyl y Llais ond ar gael i bobl 18 oed a hŷn ddydd Gwener 5 Tachwedd a dydd Sadwrn 6 Tachwedd oherwydd amseroedd hwyr y perfformiadau.

Mae Tocynnau Dydd ar gyfer dydd Iau 4 Tachwedd a dydd Sul 7 Tachwedd ar gael i oedrannau 16+.

Serch hynny, bydd Stiwdio Weston a’r gofodau cyhoeddus ar lawr waelod Canolfan Mileniwm Cymru ar agor i bawb drwy gydol penwythnos yr ŵyl fel Hwb yr Ŵyl. Fel yr arfer, rydyn yn croesawu pobl o bob oedran i ddod i brofi rhai o’r gweithgareddau a pherfformiadau sydd ar gael am ddim. Rhaid i unrhywun dan 16 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn.

Beth am hygyrchedd?

Mae Gŵyl y Llais yn hollol ymroddedig i sicrhau amgylchedd hygyrch ac i wella hygyrchedd i bawb yn ein digwyddiadau.

Mae modd cael mynediad i bob un o leoliadau Gŵyl y Llais mewn cadair olwyn.

Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn, rhowch wybod i ni wrth i chi archebu.

Mae tocynnau gŵyl ar gyfer gofalwyr, cymdeithion neu gynorthwywyr personol ar gael am ddim drwy Gynllun Hynt.

Mae modd mynd â chŵn cymorth i ddigwyddiadau Gŵyl y Llais. Fel arall, byddwn ni'n hapus i ofalu am eich ci wrth i chi fynd i berfformiad. Rhowch wybod pan fyddwch chi'n cyrraedd yr ardal casglu bandiau beth sydd orau gennych.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hygyrchedd, anfonwch e-bost aton ni drwy hygyrchedd@wmc.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2063 6464.

Dysgwch fwy am ein Cyfleusterau Hygyrch.

Ble alla i ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am bwy fydd yn chwarae a'r amserlen?

I weld y wybodaeth ddiweddaraf am artistiaid ac amseroedd, cliciwch yma, neu dilynwch ein sianeli Instagram, Twitter a Facebook.

Er ein bod ni'n ceisio rhoi'r wybodaeth fwyaf cyfredol i chi, mae'n bosib y bydd unrhyw wybodaeth sydd ar ddeunydd wedi'i argraffu yn newid.

Fydd hi'n swnllyd?

Mae'n bosib y bydd rhai perfformiadau'n swnllyd. Dewch â'ch plygiau clust eich hun, neu siaradwch â'n Tîm Profiad Cwsmeriaid a all roi rhai i chi.

Sut mae cael achrediad y wasg ar gyfer yr ŵyl?

Os hoffech fynychu'r ŵyl er mwyn rhoi sylw iddi yn y wasg, cysylltwch â Thîm y Wasg drwy ywasg@wmc.org.uk

Yn anffodus, oherwydd nifer y ceisiadau rydyn ni'n eu cael, does dim modd i bawb gael mynediad i'r ŵyl ac mae proses drylwyr ar waith.

Alla i ddim dod o hyd i'r hyn rwy'n chwilio amdano

Os na allwch chi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi yma, cysylltwch â ni gyda'ch cwestiwn a byddwn yn dod nôl atoch cyn gynted â phosib.