Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

2022: BLWYDDYN I’W CHOFIO

Daeth 2022 â ni yn ôl at ein gilydd a gwelsom ni ddechrau’r newidiadau rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eu rhannu â chi flwyddyn nesaf. Gwnaethom ni arddangos cymaint o bethau a chroesawu cynifer o gynyrchiadau teithiol poblogaidd mae bron gormod i sôn amdanyn nhw… ond gadewch i ni edrych yn ôl ar ein huchafbwyntiau o 2022. 

IONAWR – CHWEFROR 

Gwnaethom ni barhau i gysylltu â chi o bell wrth i ni gau’r adeilad unwaith eto ym mis Ionawr, ond ym mis Chwefror gwnaethom ni ailagor ein drysau a lansio rhaglen theatr ieuenctid rad ac am ddim newydd, gan roi’r cyfle i bobl ifanc 14–17 oed ddysgu sgiliau theatr a pherfformio cyffrous mewn gofod cyfeillgar a chynhwysol.

MAWRTH 

Dychwelodd Opera Cenedlaethol Cymru gyda chynhyrchiad pwerus Jenůfa, a gwnaethom ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda diwrnod llawn digwyddiadau ar ein llwyfan Glanfa gan gynnwys Pelenna Valley Male Voice Choir a Cwmdare Voices, Oasis One World Choir a blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Babyddol Santes Fair yng Nghaerdydd. Gwnaethom ni hyd yn oed ffrydio’r digwyddiad yn fyw fel y gallai pawb gymryd rhan.

EBRILL

Neidiodd Luke Hereford allan o gwpwrdd dillad ei fam-gu yn Grandmother’s Closet a llenwodd y Stiwdio Weston gyda cherddoriaeth bop eiconig a llawer o chwerthin a chariad. Roedd ei sioe gerdd hunangofiannol yn cynnwys Broadway, ei ddigwyddiad Pride cyntaf erioed a dod o hyd i’r lliw lipstic perffaith. Peidiwch â cholli allan pan fydd yn dychwelyd flwyddyn nesaf yn ein lleoliad Cabaret newydd.



Hefyd ym mis Ebrill dychwelodd ein digwyddiad Hacio Bywyd yn The Factory, Porth gyda Phlant y Cymoedd. Cafodd ei gyflwyno gan Luke McGrath o’n rhaglen Yn Gryfach Ynghyd a Tia Camilleri o’n Criw Ieuenctid a’n Grŵp Dylunio.

MAI  

Ymddangosodd gwreichion ein gwaith trawsnewid wrth i ni lansio ein prosiect Gofodau Creu. Nid dim ond lle i wylio perfformiadau a chelf anhygoel ydyn ni, ond hwb dysgu creadigol hefyd. Gan gydweithio â phobl ifanc a chymunedau, gwnaethom ni ddechrau sefydlu gofodau newydd yn yr adeilad i fod yn gartref i weithdai cynhwysol rhad ac am ddim.

MEHEFIN  

Yn yr haf daeth gŵyl Hijinx a lenwodd yr adeilad gyda rhaglen o gerddoriaeth fyw, theatr, dawns a digwyddiadau ar ôl sioeau. Dyma un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop a’r unig ŵyl o’r fath yng Nghymru.

Gwnaethom ni hefyd anrhydeddu a myfyrio ar y genhedlaeth Windrush gydag Arddangosfa Windrush Race Council Cymru ‘Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’.

GORFFENNAF

Cododd ein sioe gerdd gyntaf erioed yn Gymraeg Anthem y to yn y Stiwdio Weston. Roedd yn gynhyrchiad gwreiddiol gan Ganolfan Mileniwm Cymru a oedd yn cymryd lle tu ôl i’r llen ac ar lwyfan cystadleuaeth ganu (ffuglennol) fwyaf Cymru ar y teledu.

AWST  

Dychwelodd Carnifal Trebiwt yn llawn diwylliant a balchder. Gwnaeth miloedd o bobl fwynhau’r orymdaith enwog yn y Bae yn ogystal â llwyfannau cerddoriaeth fyw yn arddangos y profiadau celfyddydol amlddiwylliannol gorau, ac ein gofodau oedd y lleoliad perffaith ar gyfer gweithgareddau cymunedol, sgyrsiau a pherfformiadau cofiadwy’r noson olaf. 

Ac, roedd hi’n amhosibl cau cwpwrdd dillad Luke Hereford, wrth iddo deithio i Gaeredin i fesmereiddio cynulleidfaoedd yn yr ŵyl ymylol.  

MEDI 

Datgelwyd cam nesaf ein gwaith adnewyddu wrth i ni wella’r adeilad fel ei fod yn ofod hyd yn oed yn well i bawb, ac mae llawer mwy i ddod yn 2023. Lansiwyd Bocs, ein gofod pwrpasol newydd sbon ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti ymestynnol (XR), ar ddiwedd mis Awst ac ym mis Medi cafwyd y mis cyntaf llawn profiadau rhad ac am ddim i ymwelwyr. Y cyntaf oedd Ripples of Kindness, a oedd yn cyd-fynd â dychweliad ein cynhyrchiad gwreiddiol The Boy with Two Hearts.

HYDREF

Stori o obaith o Affganistan i Gymru yw The Boy with Two Hearts, a daeth y cynhyrchiad ei hun yn ffenomenon o Gaerdydd i Lundain wrth iddo drosglwyddo i’r National Theatre yn Llundain lle y cafodd adolygiadau anhygoel. 

Nôl yng Nghaerdydd, dychwelodd ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol flynyddol, Gŵyl y Llais, gydag enw newydd – Llais. Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau rhad ac am ddim a digwyddiadau â thocynnau, cyflwynodd Llais raglen o gerddoriaeth fyw anturus, profiadau chwareus a pherfformiadau pryfoclyd gan gynnwys John Cale, D Double E ac Abdullah Ibrahim ac arddangosfa City of Sound Caerdydd.

TACHWEDD

Gwnaethom ni gynhyrchu ein stwnsh grime-theatr cyntaf erioed The Making of a Monster, stori hunangofiannol y Children’s Laureate Wales Connor Allen am ei blentyndod cymhleth yn chwilio am hunaniaeth a theimlad o berthyn. Wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth grime, unodd y sioe pum seren eiriau llafar a cherddoriaeth â symudiad, cerddoriaeth fyw a brwydrau rap.

Hefyd ym mis Tachwedd cynhaliwyd Dros Nos, ein digwyddiad cysgu Dros Nos blynyddol i grwpiau ieuenctid a sefydliadau cymunedol yn ein hadeilad.

RHAGFYR 

Gwnaethom ni ddim arafu, hyd yn oed ym mis olaf y flwyddyn – ym mis Rhagfyr gwelsom ni ddigwyddiad a pharti graddio cyntaf Radio Platfform ym Mhorth a lansiad ein tymor Cabaret.

Yn mynd rhagddi o hyd mae arddangosfa dathlu’r gaeaf Azadi, gan yr artist Naz Syed o Ziba Creative, sy’n dathlu cymuned a diwylliant a threftadaeth Bersiaidd drwy bompomau prydferth. Hefyd, mae gennym ein sioe cabaret Nadoligaidd The Lion the B!tch and the Wardrobe – cacoffoni doniol iawn yn llawn drag, perfformiadau yn yr awyr, bwrlésg a mwy sy’n diddanu cynulleidfaoedd bob nos.

 

Am flwyddyn… a dyw hynny ddim yn cynnwys popeth a wnaethom ni. Rydyn ni’n falch iawn o bopeth a gyflawnon ni ar ôl cyfnod anodd ac o’r artistiaid a’r bobl greadigol a ddaeth â chymaint o hud i’n gofodau. Allwn ni ddim aros i weld beth fydd yn digwydd yn 2023… gyda’n hesblygiad nesaf, mae’n mynd i fod yn aruthrol.

DIOLCH

Rydyn ni’n elusen a gyda chymorth a rhoddion gallwn danio’r dyfodol i bobl yn y celfyddydau yng Nghymru.

Trusts and Foundations:

Garfield Weston Foundation, Moondance Foundation, Simon Gibson Charitable Trust and the Arts Council of Wales

Members

Chairs Circle -

Dr Carol Bell
Philip Carne
Bob + Lindsay Clark
Dame Vivien Duffield DBE
Diane Briere de l'Isle-Engelhardt OBE
Henry Engelhardt CBE
Dyfrig + Heather John
Sylvia Richards in memory of Clive Richards CBE KSG DL
Lord + Lady Rowe-Beddoe
Mr David Stevens CBE + Mrs Heather Stevens CBE
Mr Peter + Mrs Janet Swinburn

Partner Awen

Partner

Ffrind+

Ffrind

Special supporters:

David MorganIn memory of David Seligman OBE + Philippa SeligmanPeter + Babs Thomas

+ corporations and supporters.