Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Bocs yn ofod pwrpasol ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti ymestynnol (XR). 

Mae Bocs wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer tafluniadau a ffilmiau 360 yn ogystal â phrofiadau XR, gan gynnwys realiti estynedig, realiti cymysg a realiti rhithwir.

Mae’r gofod yn addas ar gyfer grwpiau bach ac mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Yn newydd i brofiadau ymdrochol? Peidiwch â phoeni, bydd tîm Bocs yno i’ch helpu.

"What a revelation."

"loved every second"

"one of the best experiences I have had"

"a Michelin starred meal for the senses"

"thought provoking and innovative"

Ymwelydd â Bocs

Ymunwch â David Massey, Uwch Gynhyrchydd - Profiadau Digidol wrth iddo gyflwyno’r lleoliad newydd cyffrous hwn.

It’s just brilliant to see these immersive opportunities being presented and made available for everyone.

Ymwelydd â Bocs 

Profiadau'r gorffennol

RIPPLES OF KINDNESS

Gyda’i stori am frawdoliaeth, cariad a phositifrwydd, mae’r profiad rhithiol cymunedol newydd hwn wedi ei ysbrydoli gan straeon am Hussein Amiri a’i deulu, a orfodwyd i ddianc o Afghanistan yn 2000. Dysgwch fwy.

GOLIATH

Yn cyfuno deialog ddidwyll (a leisiwyd gan Tilda Swinton), delweddau gafaelgar a rhyngweithiadau symbolaidd, gallwch wau drwy fydoedd amrywiol i ddatgelu stori deimladwy Goliath. Dysgwch fwy.

IN PURSUIT OF REPETITIVE BEATS

Mae In Pursuit of Repetitive Beats yn brofiad realiti rhithwir rhyngweithiol gan y gwneuthurwr ffilm arobryn, Darren Emerson, sy'n gwahodd cynulleidfaoedd i fynd i chwilio am rêf anghyfreithlon, un noson yn Coventry ym 1989. Dysgwch fwy.

FLIGHT

Mae Flight yn brofiad sain 360 gradd bywiog ac ymdrochol sy’n digwydd mewn tywyllwch llwyr mewn cynhwysydd cludiant 40 troedfedd. Dysgwch fwy.

ARWYDD DRWY’R AWYR

Profiad realiti rhithwir 360 yn Gymraeg a Saesneg yw Arwydd Drwy’r Awyr gan y gwneuthurwr ffilmiau llwyddiannus Tracy Spottiswoode, ynghyd â’r artist sain Marie Tueje a’r perfformwyr Marega Palser, Mary-Anne Roberts a Gareth Clark. Dysgwch fwy.

LGBTQ+ VR MUSEUM

LGBTQ + VR Museum yw’r amgueddfa realiti rhithwir cyntaf yn y byd sy’n ymroddedig i ddathlu straeon a gwaith celf pobl LHDTC+ drwy ddiogelu hanesion personol cwiar. Dysgwch fwy.