Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
CABARET

Cabaret

Mae tymor agoriadol Cabaret, ein lleoliad bywiog newydd, wedi cael ei lansio – bydd yn agor ym mis Chwefror 2023 ac yn arddangos y goreuon o’r bydoedd drag, bwrlésg, comedi, theatr gig a mwy.

Gyda lein-yp pryfoclyd, llawen a gwyllt o bryd i’w gilydd, bydd Cabaret yn ofod diogel lle y gall pawb fynegi a mwynhau eu hunain. Mae tocynnau ar werth nawr.

Mae tymor agoriadol Cabaret yn cynnwys cydweithrediadau lleol â Chlwb Cabaret Caerdydd, Glitter Cymru a The Queer Emporium, yn ogystal ag actau teithiol poblogaidd fel Big Band Burlesque a Paulus sy’n adnabyddus o’r teledu ac sy’n dathlu cerddoriaeth Victoria Wood.  

Bydd ein creadigaethau ein hunain hefyd yn cael eu gweld ar y llwyfan. Mae sioe deimladwy Luke Hereford Grandmother’s Closet yn dychwelyd yn dilyn rhediad arobryn yng Ngŵyl Caeredin, a bydd sioe Queerway – a gynhyrchir gan Leeway Productions gyda chefnogaeth gan Theatrau RhCT a Chanolfan Mileniwm Cymru – sy’n adrodd straeon bywyd pobl LHDTC+ o Rondda Cynon Taf yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf. 

Drag Queen Wine Tasting

"Gofod diogel lle y gallwch chi fod yn chi eich hun, darganfod eich hun ac ymgolli eich hun"

Mae’r rhaglen wedi cael ei churadu gan y cynhyrchydd Peter Darney, sydd eisoes wedi creu ein dwy sioe cabaret Nadolig i oedolion a werthwyd allan – XXXmas Carol (2021) a The Lion, the B!tch and the Wardrobe (2022).  

Dywedodd Peter Darney:Gyda Cabaret roedden ni am greu rhaglen mor amrywiol â phosibl a gwneud yn siŵr bod popeth yn fforddiadwy yn ystod cyfnod mor anodd. Mae’n mynd i fynd yn wyllt, yn bryfoclyd ac yn hwyliog. 

Mae noson Bhangra, perfformiadau sy’n ystyriol o ddementia a rhywbeth i bobl ifanc a phobl ifanc eu hysbryd. Rydyn ni am greu cymuned arbennig yma yn Ne Cymru – gofod diogel lle y gallwch chi fod yn chi eich hun, darganfod eich hun ac ymgolli eich hun. 

A Glittery Evening

Mae Cabaret yn rhan o'n gwaith trawsnewid parhaus i fod yn hwb creadigol i bawb. Bydd lle i tua 120 o bobl yn y lleoliad pwrpasol lle byddwn yn cyflwyno talent ddatblygol ac eclectig fel nunlle arall yng Nghymru, gan ddod ag ychydig o ysbryd Soho i Fae Caerdydd. 

 

Mae’r lleoliad wedi cael ei ddylunio fel bod pawb yn teimlo’n gartrefol gyda chyfleusterau hygyrch a niwtral o ran rhywedd. 

Mae prisiau digwyddiadau yn amrywio o £7 i £20, ac mae tocynnau gostyngedig ar gael i bobl sy’n byw gydag anabledd, myfyrwyr, pobl o dan 30 oed a phobl ddigyflog. Darganfyddwch yr holl ddanteithion sydd gennym ar y gweill y tymor hwn.