Skip to main content

Dirty Dancing

15 – 19 Mehefin 2027
Theatr Donald Gordon
Dirty Dancing
15 – 19 Mehefin 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

Maw, Mer, Iau 7.30pm
Gwe 5pm + 8.30pm
Sad 2.30pm + 7.30pm

Tua 2 awr 20 munud (yn cynnwys un egwyl).

Oed:

12+ (dim plant o dan 2 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion:

Yn cynnwys iaith gref.

Dirty Dancing

Mae Dirty Dancing – The Classic Story on Stage - yn dychwelyd i Gaerdydd gyda cherddoriaeth wefreiddiol, emosiwn pur a dawnsio hudolus a nwydus.

Mae miliynau o bobl ledled y byd wedi mwynhau’r sioe gerdd hynod boblogaidd yma sy’n dilyn stori Baby a Johnny, dau enaid annibynnol o ddau fyd gwbl wahanol, sy’n dod at ei gilydd yn ystod haf mwyaf heriol a chyffrous eu bywydau.

Dewch i weld y ffilm boblogaidd o flaen eich llygaid gyda’r sioe fyw wych, emosiynol a champus yma.

Mae’r stori eiconig yn cynnwys y caneuon hynod boblogaidd Hungry Eyes, Hey! Baby, Do You Love Me? a’r drawiadol (I’ve Had) The Time Of My Life, a chast o ddawnswyr anhygoel.

Glitz, goosebumps and slick moves: DIRTY DANCING dazzles

Buzz Magazine

It almost goes without saying that the dancing is exceptional. The choreography is next level, and every routine is performed with incredible precision.

MKFM - Milton Keynes

THE STAGE VERSION IS A PHENOMENON

Sunday Mirror

CYNNIG AELODAU

Aelodau Partner a Phartner Awen: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau, + Gwe (5pm) (gan gynnwys y noson agoriadol)

Aelodau Ffrind a Ffrind+: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau, + Gwe (5pm) (ac eithrio’r noson agoriadol).

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw–Iau, Gwe (5pm) (ar y 2 bris uchaf). Trefnwch ymweliad grŵp.

16–30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw–Iau, + Gwe (5pm)


Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.