Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Darganfod mwy o berlau Llais

Fis diwethaf gwnaethom ni gyhoeddi bod Llais, gŵyl gelfyddydol ryngwladol Caerdydd, yn dychwelyd, a’r don gyntaf o ddigwyddiadau yn y Theatr Donald Gordon a Neuadd Hoddinott gan gynnwys Bat For Lashes, dathliad o Joni Mitchell gyda Charlotte Church, Laura Mvula, Gwenno ac ESKA, y seren fado Mariza, The Unthanks a mwy. 

Ond mae gennym ni hyd yn oed mwy i chi. O bync-roc i ailddehongliadau jazz, gwerin deimladwy i ffilmiau ymdrochol, byddwn ni’n cynnig lein-yp eclectig ym mhob cornel o’n safle a fydd yn cyfareddu eich synhwyrau. Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r digwyddiadau rhad ac am ddim ac â thocynnau a fydd yn digwydd ym mhob cornel o’r adeilad pan fydd Llais yn dychwelyd yn hwyrach eleni.  

CERDDORIAETH

RICHARD DAWSON

Stiwdio Weston, Iau 12 Hydref, 7pm

Dod o hyd i docynnau

Mae Richard Dawson, un o leisiau mwyaf pwerus a theimladwy’r DU, yn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer perfformiad unigol arbennig ar ôl rhyddhau ei albwm diweddaraf The Ruby Cord y llynedd. 

The Cab Presents: Anarchy in the Bay

Stiwdio Wolfson, Iau 12 Hyd, 8pm 

Dod o hyd i docynnau

Mae lein-yp prysur o roc pync DIY amrwd yn symud o seleri a chlybiau bach chwyslyd De Cymru i oleuadau llachar Canolfan Mileniwm Cymru. Lein-yp llawn i’w gyhoeddi. 

Mae’r gig yma yn rhan o ddigwyddiad ehangach sy’n cyd-fynd â Battlescar: Punk Was Invented By Girls, ffilm realiti rhithwir, a Wasteland Of My Fathersarddangosfa sy’n arddangos y diwylliant pync yng Nghymru.   

 

A Celebration of Alison Statton: A Jazz Re-Imagining

Cabaret, Iau 12 Hyd, 9pm 

Dod o hyd i docynnau

Ymunwch â ni am ddathliad o’r seren eiconig ôl-pync o Gaerdydd Alison Statton, y mae ei chefnogwyr niferus yn cynnwys Gwenno, cyd-greawdwr Llais eleni. Caiff repertoire mwyaf eiconig Statton, sy’n adnabyddus am ei chyfraniadau at y bandiau Young Marble Giants a Weekend, ei archwilio drwy lens ffres ac arbrofol, wedi’i berfformio gan gerddorion ifanc gwych a astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dan arweiniad y gantores Sylvie Noble.    

Llais X BBC Gorwelion yn cyflwyno L E M F R E C K, Nookee + SOURCE

Stiwdio Weston, Gwe 13 Hyd, 8pm

Dod o hyd i docynnau

Rydyn ni wedi ymuno â BBC Gorwelion i gyflwyno lein-yp ysblennydd o dalent ddatblygol o Gymru. Dywedodd Uwch-gynhyrchydd BBC Gorwelion Bethan Elfyn: 

“Mae hyn yn mynd i fod yn ddathliad rhyfeddol o gymunedau cerddoriaeth yn dod at ei gilydd, noson i weld syniadau yn anadlu ac eneidiau yn canu, a cherddorion yn codi gêr mewn cynnig creadigol sy’n siŵr o fod yn syfrdanol. Diolch i’r tîm yn Llais am weld rhywbeth a oedd yn hedyn bach a meithrin y syniad, gan adael iddo dyfu a datblygu mewn ffordd organig gan y cerddorion eu hunain. Dwi mor ddiolchgar y gallwn ni hwyluso a bod yn rhan o’r daith honno.” 

Enys Men gyda Sgôr Byw gan The Cornish Sound Unit 

Stiwdio Weston, Sad 14 Hyd, 1pm 

Dod o hyd i docynnau

Mae cyfarwyddwr BAIT Mark Jenkin yn dilyn ei ffilm gyntaf arobryn gydag Enys Men, y stori arswyd werin ryfeddol ac iasoer yma, wedi’i saethu ar 16mm. Caiff y sgôr ei berfformio’n fyw gan Jenkin ei hun a Dion Star, o dan faner eu prosiect cerddoriaeth cydweithredol The Cornish Sound Unit, sy’n creu darnau byrfyfyr ac wedi’u cyfansoddi gan ddefnyddio peiriannau tâp, synths analog, adborth a recordiadau maes.

Angharad Davies

Cabaret, Sad 14 Hyd, 3pm

Dod o hyd i docynnau

Bydd Angharad Davies yn chwarae ei pherfformiad byw cyntaf o’i halbwm ‘gwneud a gwneud eto | do and do again’. Cafodd ei recordio yn 2021 ar ôl iddi weithio ar brosiectau ar wahân gyda Gwenno a Richard Dawson, a chafodd ei hysbrydoli i roi cynnig ar drac hir, gan ganiatáu i ni glywed y feiolin o’r tu mewn bron, gan ddatgelu manylion gronynnog yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel ‘cyfoeth diddiwedd posibiliadau’ yr offeryn. 

Angeline Morrison

Cabaret, Sad 14 Hyd, 5pm

Dod o hyd i docynnau

Dewch i fyd cyfareddol Angeline Morrison, yr artist gwerin arobryn; cymysgedd teimladwy o adrodd straeon, melodïau hiraethus a chaneuon traddodiadol wedi’u hailddychmygu, gan gyfleu hanfod llên gwerin a’r goruwchnaturiol.

Tomos Williams: Cwmwl Tystion II / Riot!

Stiwdio Weston, Sad 14 Hyd, 7.30pm 

Dod o hyd i docynnau

Mae’r trwmpedwr o Gymru Tomos Williams wedi cynnull band gwych sy’n cynnwys y cerddorion o fri rhyngwladol Soweto Kinch ac Orphy Robinson ochr yn ochr â’r gantores ifanc o Gymru Eadyth Crawford ac adran rhythm o’r radd flaenaf yn Aidan Thorne a Mark O’Connor. Bydd delweddau byw gan Simon Proffitt yn cyd-fynd â’r perfformiad ymdrochol yma sy’n cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, cerddoriaeth werin Gymraeg a’r avant-garde.  

SIÂN JAMES

Cabaret, Sad 14 Hyd, 7.45pm

Dod o hyd i docynnau

Siân James yw un o gantorion benywaidd cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae’n arloeswr arweiniol ym maes caneuon gwerin traddodiadol.

Mae’n chwarae telyn geltaidd ac mae’n bianydd ac yn gyfansoddwr ardderchog. Oherwydd ei gallu amryddawn fel perfformiwr, mae wedi ymddangos ar lwyfannau, ar sgrin ac mewn lleoliadau cyngherddau ledled y byd, a chaiff ei pharchu fel un o brif lysgenhadon cerddoriaeth Cymru.

Elaha Soroor: Flight of the Phoenix

Stiwdio Weston, Sul 15 Hyd, 8pm 

Dod o hyd i docynnau

Perfformiad premiere byd wedi’i ysbrydoli gan fywyd ac etifeddiaeth Abey Mira, cantores Hazara adnabyddus o Affganistan, wedi’u hailddychmygu drwy lais ac arddull Elaha Soroor (The Boy with Two Hearts). Ochr yn ochr â’r perfformiad cerddorol, bydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru 2022, yn adrodd straeon am wydnwch a goroesi. 

Dangosiadau a Sgyrsiau Am Ddim

CLARE MARIE BAILEY: PARALLEL LIVES

Stiwdio Wolfson, Sul 15 Hyd, 6.30pm

Dod o hyd i docynnau

Casgliad o ffilmiau analog yw Parallel Lives sy’n chwarae fel ffilmiau teledu byr sydd wedi cael eu hanghofio o blentyndod cyn y rhyngrwyd, gweledigaethau breuddwydiol o realiti cyfochrog. Wedi’u trwytho ag arswyd gwerinol a swrealaeth straeon tylwyth teg, maen nhw’n cynnig cipolwg o fyd lle mae ffiniau realiti wedi’u pylu, gan bontio elfennau gweladwy ac anweladwy.

THE DRAGON HAS TWO TONGUES

Stiwdio Weston, Sad 14 Hyd, 3.30pm

Dod o hyd i docynnau

Cyfle prin i wylio pennod o’r gyfres ddogfen hynod ddylanwadol am hanes Cymru a gafodd ei darlledu yn 1985. Bydd sesiwn holi ac ateb gyda chynhyrchydd y gyfres Colin Thomas a Tad Davies yn dilyn.

SUPERTED

Stiwdio Wolfson, Sul 15 Hyd, 11am 

Dod o hyd i docynnau

Penodau clasurol o’r gyfres wedi’i hanimeiddio Gymreig boblogaidd SuperTed, a gafodd ei darlledu rhwng 1982 a 1986. Yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg.

SOMALI TALES OF TIGER BAY

Stiwdio Weston, Sul 15 Hyd, 12pm 

Dod o hyd i docynnau

Ymunwch â’r awdur Nadifa Mohamed i drafod The Fortune Men, cael cyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o ddathliad o hanes, diwylliant a pherfformiadau gan bobl Gymreig o Somaliland wedi’u curadu a’u rhaglennu gan Zainab Nur. 

STONE CLUB YN CYFLWYNO: A YEAR IN A FIELD

Stiwdio Wolfson, Sul 15 Hyd, 2.15pm

Dod o hyd i docynnau  

Mae ennill gwobr BAFTA, Christopher Morris yn ein gwahodd ni i arafu, wrth iddo ffilmio am flwyddyn mewn cae yng ngorllewin Cernyw; i ymdrochi ein hunain yn y weithred uniongyrchol dawel yma o lonyddwch, i gymryd anadl a myfyrio ar effeithiau planedol ein bodolaeth fer fel pobl, o dan edrychiad gwyliadwrus y Longstone, monolith hynafol sy’n amlwg yn y dirwedd elfennol yma. 

STONE CLUB YN CYFLWYNO: O'R DDAEAR HEN

Stiwdio Wolfson, Sul 15 Hyd, 4.15pm

Dod o hyd i docynnau

Ymunwch â Stone Club ar gyfer dangosiad o O’r Ddaear Hen, a argymhellwyd yn gyntaf gan aelod o’r Stone Club sef Gruff Rhys, a welodd y ffilm am y tro cyntaf yn 1981 yn yr ysgol. Mae O’r Ddaear Hen cystal â theledu arswyd gwerinol gorau’r 70au a’r 80au; mae’n hunllefus, yn hynod ryfedd ac wedi aros ym meddyliau pawb sydd wedi’i gwylio. Mewn cydweithrediad ag Archif Ddarlledu Cymru.

ETO I’W DDOD...

Bydd hefyd gennym fand drymiau dur cymunedol o Gaerdydd, wedi’i arwain gan yr hwylusydd a’r artist Wahda Placide, a bydd Sound Progression, Lab7, Ministry of Life a New Era yn datgelu penwythnos o R&B, grime, dril a hip-hop wedi’i raglennu gan bobl ifanc. 

Mae mwy o gyhoeddiadau ar y ffordd dros yr ychydig wythnosau nesaffelly cofrestrwch ar gyfer y rhestr bostio a dilynwch ni ar FacebookTwitter neu Instagram. #Llais2023

Rydyn ni’n credu dylai’r celfyddydau fod yn hygyrch i bawb. Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio tocynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad o’ch dewis a thalu beth y gallwch ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch yma.