Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

2023: Trosolwg o'r Flwyddyn

Wrth i flwyddyn arall ddirwyn i ben, dewch gyda ni wrth i ni edrych yn ôl ar rai o’n huchafbwyntiau o 2023.

Wrth i ni ysgrifennu'r blog yma, rydyn ni'n edrych allan yn freuddwydiol drwy ffenestri’r arysgrif ym mar Awen, fel prif gymeriad mewn ffilm deledu Nadoligaidd gawslyd, yn myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, cyn i ni chwarae trac sain Hamilton am y degfed tro yr wythnos yma. 

Fe ddechreuon ni'r flwyddyn yn sŵn chwyldroadwyr Ffrainc yn ymosod ar y baricedau a'i gorffen yn codi uwch ben Theatr Donald Gordon ar garped hud. Fe agoron ni ein drysau i gymaint o gynyrchiadau teithiol anhygoel, ond mae'r cipolwg yma ar y 12 mis diwethaf yn canolbwyntio ar ein cyflawniadau a'n digwyddiadau ni ein hunain.

 


 

IONAWR A CHWEFROR  

 

Blwyddyn newydd, lleoliadau newydd. Yn ystod 2023, gwelwyd llawer o ofodau newydd yn cael eu hagor, gan ddechrau gyda throi Ffresh yn Cabaret, sef cartref pwrpasol i berfformiadau bwrlésg, comedi, theatr gig a mwy! “Blas ar Soho ym Mae Caerdydd” – South Wales Life.

Croesawyd cymaint o berfformiadau amryliw, amrywiol a syfrdanol i’r gofod diogel yma i bawb eleni, ac mae wedi bod yn werth yr aros.  

Dychwelodd ein digwyddiadau Hacio Bywyd, gan ddechrau yn y Porth. Diwrnod ysbrydoledig am ddim yw hwn, lle gall pobl ifanc gwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol a rhyngweithiol.

Ym mis Chwefror, cafodd y mynychwyr gyfle i greu ffilmiau, comedi stand-yp, creu gwisgoedd, MC-io a llawer mwy. Gwyliwch ein ffilm o uchafbwyntiau i gael blas ar ddiwrnod bythgofiadwy. 

Ffeithiau 2023: Roedd 96% o’r unigolion a ddaeth yn cytuno bod Hacio Bywyd wedi eu helpu i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, i gymryd rhan ac i rannu syniadau, ac i ddeall pa yrfaoedd creadigol sydd ar gael iddyn nhw. 

‘... Roedd e’n ddefnyddiol i fi ac mae wedi gwneud i fi ystyried dilyn llwybr gyrfa newydd.’  

‘Y prif bwynt dysgu i fi oedd sylweddoli fy mod yn gallu arbenigo mewn mwy nag un proffesiwn a does dim rhaid i fi gadw at un.’ 

     -       un o’r mynychwyr 

 


 

MAWRTH AC EBRILL 

 

Wrth i ni ddechrau’r gwanwyn, roedd y Lanfa’n llwyfan i’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, gyda chawl a chorau. Hefyd, cafodd lleoliad newydd rhif 2 ei ddatgelu, wrth i ni adfywio hen ardal blaen y tŷ a’n desg docynnau yn Ffwrnais, sef caffi-bar a lolfa fawr.

Dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer gweithio o bell, egwyl amser cinio, cwrdd â ffrindiau cyn sioe a mwy, dyma un o'r newidiadau mwyaf mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi'u gweld. Cofiwch fod modd cael gostyngiad o 10% oddi ar eich diodydd ar ôl y sioe gyda'ch tocyn, felly peidiwch â brysio adre... dewch i gael ôl-drafodaeth ymlaciol yn un o fariau mwyaf newydd y Bae. 

Eleni, am y tro cyntaf, fe wnaethon ni gynnal Iftar, gan ddod â chymunedau o bob ffydd a chefndir at ei gilydd i ddathlu diwedd ympryd yn ystod Ramadan.  

“Dw i erioed wedi cael y math yma o brofiad mewn gweithle o’r blaen. Mae cael fy nerbyn am fy nghrefydd, a bod yma gyda phobl eraill o’r un ethnigrwydd, y gymuned leol a phobl nad ydyn nhw’n Fwslimiaid, i gyd gyda’i gilydd mewn un adeilad yn arbennig...mae’n arbennig.” 

Gallwch glywed mwy gan Bablu Shikdar, aelod Mwslimaidd o dîm Radio Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn ei flog lle mae’n rhannu ei deimladau am y noson hynod bwysig yma. Gwyliwch ein ffilm hyfryd i gael blas ar y digwyddiad.   

Ym mis Ebrill fe wnaethon ni ganiatáu i ymwelwyr gael cipolwg “Tu ôl i’r Llen”, gyda digwyddiad undydd arbennig, yn mynd â nhw gefn llwyfan a thu hwnt, i ddarganfod cyfrinachau a straeon Canolfan Mileniwm Cymru. Roedd teithiau tywys, blasu coctels yn Cabaret a sesiynau Holi ac Ateb yn rhan o’r arlwy ar gyfer ein profiad unigryw, gan ddangos sut mae’r adeilad yma’n gweithio a pham mae rhoddion a chyllid gan y rhai sy’n hoff o’r celfyddydau a’n haelodau yn gwella’r hyn rydyn ni’n ei wneud. 

Ffeithiau 2023: Gadawodd 97% o’r bobl ddaeth i ddigwyddiad Tu ôl i’r Llen gyda gwell dealltwriaeth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda phobl ifanc, cymunedau, a phobl greadigol, a gadawodd 86% yn teimlo’n ‘egnïol ac wedi’u hysbrydoli’ gan yr hyn roedden nhw wedi’i weld a’i glywed. 

‘Roedd hi’n hynod ddiddorol gweld yr amrywiaeth o bethau sy’n digwydd y tu ôl i’r llen.’  

‘Gwnaeth yr ystod eang o raglenni a gweithgareddau cymunedol argraff fawr arna i.’ 

     -       un o’r mynychwyr 

 


 

MAI A MEHEFIN 

 

Perfformiwyd ein cynhyrchiad ni, Es & Flo, am y tro cyntaf ddiwedd mis Ebrill a thrwy mis Mai, cyn trosglwyddo i Theatr Kiln yn Llundain ym mis Mehefin. Mae’r ddrama gyntaf yma gan Jennifer Lunn yn dathlu cariad perthynas lesbiaidd hŷn, menywod yn dod at ei gilydd i frwydro dros yr hyn sy’n iawn, a grym iachaol teulu dewisol.

A hithau wedi derbyn adolygiadau cyffrous ac ennyn ymatebion mor bwerus, rydyn ni’n teimlo’n hynod o ffodus o gael dod â’r stori yma’n fyw o’r diwedd, gan gydweithio â thîm cynhyrchu gweithgar a dawnus. Aeth Jennifer ymlaen i gael ei henwebu am wobr yr Awdur Gorau yng Ngwobrau The Stage Debut yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a rhestrwyd y ddrama, unwaith eto gan The Stage, fel un o 50 o sioeau gorau’r flwyddyn. Diolch! 

Tra bod digwyddiadau hudolus yn digwydd y tu mewn i’n hadeilad, daeth y tu allan yn seren deledu gyson, gan ymddangos fel ‘cerdyn post’ yn ystod Cystadleuaeth yr Eurovision eleni, ynghyd â Thŷ Opera Copenhagen yn Nenmarc a Thŷ Opera Lviv yn Wcráin.

Yna, cafodd yr adeilad ei gynnwys mewn sioe olau gyfareddol a hardd ar gyfer coroni Brenin Siarl III. Darlledwyd y ddau ddigwyddiad ar draws y byd, gan ddod â Chaerdydd, a’n harysgrif enwog, i gartrefi miliynau o bobl. 

 

  


 

GORFFENNAF AC AWST 

Ym mis Gorffennaf, cafodd lolfa ein haelodau ei gweddnewid yn llwyr, a’i hailenwi’n Copr. Gellir mwynhau'r ardal a'r cyfleusterau hardd newydd gyda gwahanol haenau o aelodaeth, sydd oll yn helpu i ariannu ein gwaith craidd gyda chymunedau a phobl ifanc. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ysbrydolwyd dros 6,500 o bobl ifanc 11–24 oed o bob rhan o Gymru drwy 1,350 o weithgareddau dysgu creadigol am ddim, ac ymunodd 11,000+ o bobl eraill i fwynhau 160 o berfformiadau a phrofiadau cymunedol yn ein hadeilad.  

Diolch, mae eich ymrwymiad a'ch cysylltiad â ni drwy fod yn aelod o Ganolfan Mileniwm Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. 

Dros yr haf, daeth gwahanol adrannau o Ganolfan Mileniwm Cymru at ei gilydd i greu ymgyrch unedig i dynnu sylw at effaith newid hinsawdd a’n hymrwymiad ein hunain i gynaliadwyedd. Cydblethwyd tymor o arddangosfeydd, gweithgareddau a phrofiadau ar gyfer Un Blaned, Un Cyfle

 

 

Roedd ein gosodwaith dros yr haf yn cynnwys Otsi a Bubbles, yr orangwtans nerthol a ddyluniwyd gan Wild Creation, oedd yn hongian o'r trawstiau dros ofod y Lanfa. Roedd llwybr anifeiliaid o amgylch yr adeilad, gyda gwaith celf a ddyluniwyd gan blant lleol, yn cadw teuluoedd yn brysur, ac yn Bocs daeth gwesteion yn rhan o ddangosiad cyntaf rhyngwladol prosiect Gondwana.

Roedd y profiad realiti rhithwir a thaflunio unigryw yma’n caniatáu i westeion ymgolli yng nghoedwig law drofannol hynaf y byd, mewn cynrychiolaeth archwiliadwy, grwydrol o Goedwig Law Daintree yng Ngogledd Pell Queensland, Awstralia. 

Gwyliwch ein cyfweliad ecsgliwsif gyda chrewyr Gondwana am sut aethon nhw ati i greu’r digwyddiad unigryw yma, eu teithiau i’r goedwig law a’u hysbrydolodd a pha mor falch oedden nhw o gael dangos eu gwaith am y tro cyntaf yng Nghaerdydd. 

Buon ni’n gweithio gyda Chymdeithas Celfyddydau a Diwylliannol Tre-biwt i helpu i gyflwyno Carnifal Tre-biwt arbennig arall, a ddaeth â môr o liw, cerddoriaeth a digwyddiadau cymunedol i Fae Caerdydd.  

 

Ym mis Awst gwelwyd agoriad swyddogol ein sioe gerdd newydd sbon Branwen: Dadeni, cyd-gynhyrchiad gyda chwmni gwych Frân Wen. Aethon ni i fyny i’r Eisteddfod Genedlaethol i arddangos y stori a rhoi blas ar yr hyn y gallai cynulleidfaoedd ei ddisgwyl o’r sioe fawreddog.

Bu prif gymeriad y sioe, sef seren y West End, Mared Williams, yn perfformio rhai o’r caneuon yn fyw a chafodd fideo rhagflas y sioe, a ffilmiwyd yng Nghoedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, ei ddarlledu ar S4C yn ystod yr Ŵyl.  


 

MEDI A HYDREF 

 

Cyrhaeddodd yr hydref a thrawsnewidiodd Opera Cenedlaethol Cymru Theatr Donald Gordon gyda’u tymor newydd o gynyrchiadau rhyfeddol.

Llenwyd llwyfan Cabaret ar ôl gwyliau haf gyda mwy fyth o ryfeddodau hyfryd a champ. Mae Cabaret yn darparu gofod ar gyfer cymysgedd godidog o ddoniau lleol, ochr yn ochr â’r perfformwyr a’r theatr ymylol gorau o bob rhan o Brydain a thu hwnt. Efallai ein bod ni’n brolio’n hunain, ond does unman arall tebyg iddo yn ein barn ni. Tocynnau = fforddiadwy. Awyrgylch = anhygoel. Goleuadau = diolch i’n tîm technegol gwych. Mae eu doniau a'u hamser yn cwblhau'r profiad.  

 

 

Yn ystod y flwyddyn, mae llawer o ddigwyddiadau yn llenwi’r adeilad, ond does yr un yn gwneud hynny ar yr un raddfa â'n gŵyl gelfyddydol ryngwladol flynyddol, Llais. Dros chwe diwrnod bu’r gwesteion yn mwynhau rhaglen eclectig o gerddoriaeth, theatr, gweithdai, cyd-ganu a sgyrsiau, gyda’r arlwy eleni’n cael ei gyd-guradu gan Gwenno, a gafodd ei henwebu am Wobr Gerddoriaeth Mercury. Hefyd, dewisodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ni fel eu lleoliad unwaith eto, gan ddathlu blwyddyn wych arall i ddoniau o Gymru, gyda Rogue Jones yn cipio’r wobr am eu halbwm Dos Bebés. 

Yn ystod gŵyl Llais, fe wnaeth Bocs eich cludo i gyfnod o gerddoriaeth pync, anarchiaeth a hunanfynegiant gyda’r ffilm realiti rhithwir Battlescar: Punk was Invented by Girls, yng nghwmni Wasteland of my Fathers, arddangosfa unigryw am y sîn pync yng Nghymru.  

Gallwch weld sut aeth Gwenno ati i gynhyrchu ei pherfformiad trochol ar y dydd Sul yma, a gallwch edrych yn ôl ar yr ŵyl eleni yn ein ffilm uchafbwyntiau isod. 

Cafodd gŵyl Llais ei hategu ymhellach gan ein rhaglen o ddigwyddiadau am ddim, gan gynnwys perfformiadau gan Fand Dur Pantasia, sef grŵp padellau dur cymunedol a gafodd eu cynnull gan y cerddor lleol Wahda Placide ar gyfer ymarferion wythnosol yn y cyfnod cyn yr ŵyl. 

 

 

‘Heb y prosiect yma byddwn i’n dal i fod yn cuddio, yn gor-feddwl, yn poeni, a nawr mae gen i rywbeth i edrych ymlaen at ei wneud!’ Aelod o Fand Dur Pantasia 

Ffeithiau 2023:  Am y tro cyntaf eleni, fe wnaethon ni gyflwyno tocynnau ‘talu beth y gallwch’ ar gyfer gŵyl Llais, i helpu i’w gwneud yn fwy hygyrch byth. 

‘Ro’n i mor ddiolchgar i gael cynnig tocynnau am bris gostyngol, neu fel arall fydden i ddim wedi gallu dod. Ces i fy syfrdanu gan y dewis o seddi, y lleoliad ac roedd y sioe yn anhygoel.’ 

Diolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth a helpodd i wneud Llais 2023 yn bosib. 

 


  

TACHWEDD A RHAGFYR 

 

Efallai bod y flwyddyn yn dirwyn i ben, ond doedden ni’n bendant ddim yn arafu. Cafodd Branwen: Dadeni ei pherfformio am y tro cyntaf ar y llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, gan nodi cyfnod enfawr i theatr Gymraeg. Cafwyd canmoliaeth fawr i uchelgais a graddfa’r sioe yng Nghaerdydd, cyn i’r cynhyrchiad fynd ar daith o gwmpas Cymru a gwerthu pob tocyn.  

Dychwelodd ein cyflwyniad trochol i’r celfyddydau, Dros Nos, gan roi cyfle i bobl ifanc gysgu dros nos o dan ein to copr a chymryd rhan mewn gweithdai am ddim. Eleni roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar Branwen: Dadeni a’r Gymraeg, ac roedd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda chrewyr y sioe a gweithdai ymladd llwyfan ac ysgrifennu. 

Ffeithiau 2023: Roedd 100% o’r unigolion a ddaeth yn teimlo eu bod wedi gwneud cysylltiadau neu gyfeillgarwch newydd drwy ddigwyddiad Dros Nos. Roedd 81% arall yn cytuno bod Dros Nos wedi rhoi hwb i’w hyder creadigol a’i fod yn gwneud iddyn nhw deimlo y gallen nhw ddilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol:  

“Fe wnes i fagu hyder i rannu fy syniadau mewn amgylchedd creadigol.”  

“... Fe wnes i ddysgu i beidio â bod ofn actio.”  

“Fe wnes i fwynhau cwrdd â phobl newydd a dysgu mwy am y diwydiant theatr gan weithwyr proffesiynol.” 

     -       un o’r mynychwyr 

 

Roedd yna sêr y tu mewn i'r adeilad, ond roedd y paneli solar y tu allan, ar ein to, hefyd yn serennu eleni. Ym mis Tachwedd, fe wnaethon ni ennill Gwobr Effaith IWFM 2023 ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ar yr Hinsawdd. Mae cynaliadwyedd ar frig ein hagenda, ac mae’r wobr yma’n cadarnhau ein hymrwymiad i ddyfodol mwy glân a gwyrdd. 

\

  
Daeth y Nadolig ag arddangosfa aeafol hyfryd, Nyth, i’n hadeilad, sy’n cynnwys nyth gerfluniol gan yr artistiaid Catrin Doyle a Helen Malia, gyda darnau celf yn Ffwrnais. 


Mae tair ffilm animeiddiedig gan Efa Blosse-Mason a Casi Wyn i’w gweld yn Bocs hefyd, am ddim, mewn cydweithrediad ag Archif Ddarlledu Cymru. Profwch yr animeiddiadau syfrdanol tan 14 Ionawr – maen nhw’n cael eu chwarae drosodd a throsodd drwy gydol y dydd felly galwch heibio unrhyw bryd. Tra byddwch chi yma, gallwch swatio’n glyd a chynnes a blasu bwydlen o hyfrydwch tymhorol yn Ffwrnais, gan gynnwys gwin cynnes, cacen stollen, coctels ar thema Aladdin a mins peis.  

Dychwelodd ein tîm sioe cabaret y Nadolig am y drydedd flwyddyn a'r tro olaf. Mae The First XXXmas: A Very Naughty-tivity gan Duncan Hallis a'i gydweithwyr dawnus yn sioe pum seren mae'n rhaid ei gweld i'w chredu. Mae rhai tocynnau ar ôl, ond brysiwch cyn iddyn nhw werthu allan – rhaid i’r sioe ddod i ben ar Nos Galan, gan gynnig diweddglo haeddiannol i flwyddyn gyffrous.  

 


 

Mae blwyddyn arall bron ar ben, ond mae cymaint i edrych ymlaen ato yn 2024, gan gynnwys Nye, ein cyd-gynhyrchiad â’r National Theatre am Aneurin Bevan, gyda Michael Sheen yn serennu. Ymlaen â ni at flwyddyn arall o brofiadau rhyfeddol, arloesi anhygoel, eiliadau cofiadwy a thanio’r dychymyg.

Blwyddyn Newydd Dda! 

DIOLCH

Fel elusen, ni fyddem yn gallu parhau â´n gwaith heb gefnogaeth gan unigolion, ymddiriedolaethau, sefydliadau a busnesau hael ac wrth gwrs ein gwirfoddolwyr anhygoel.

 

Diolch i bawb a gyfrannodd ac i –

Ymddiriedolaethau a Sefydliadau:

Garfield Weston Foundation, Moondance Foundation, Simon Gibson Charitable Trust a Chyngor Celfyddydau Cymru

Aelodau:

Cylch y Cadeirydd -

Dr Carol Bell
Bob + Lindsay Clark
Dame Vivien Duffield DBE
Diane Briere de l'Isle-Engelhardt OBE
Henry Engelhardt CBE
Dyfrig + Heather John
Sylvia Richards in memory of Clive Richards CBE KSG DL
Lady Rowe-Beddoe + in memory of Lord Rowe-Beddoe DL
David Stevens CBE + Heather Stevens CBE
Mr Peter + Mrs Janet Swinburn

Partner Awen

Partner

Ffrind+

Ffrind

 

Cefnogwyr arbennig:

Noddwr Sefydlu er cof am Syr Donald Gordon


Llywydd Oes  er cof am Yr Arglwydd Rowe-Beddoe DL

 

Yn ogystal â'r corfforaethau a'r cefnogwyr yam.