Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

10 Hydref 2023

Bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn agor yr ŵyl unwaith eto eleni gyda dathliad o’r gerddoriaeth Gymreig gorau o’r flwyddyn ddiwethaf.

Bydd perfformiadau gan artistiaid sydd wedi’u henwebu a thalentau Cymreig datblygol yn ogystal â mwy i’w datgelu yn fuan. 

Enillwyr Gwobr Triskel (gyda Help Musicians)

Half Happy 

Dom & Lloyd

Talulah

Perfformwyr 

Bydd y bandiau a'r artistiaid hyn yn perfformio'n fyw ar y noson:

Cerys Hafana

Mace the Great

Minas 

Half Happy

Dom & Lloyd 

Talulah

Hana Lili 

Enillwyr llynedd, Adwaith

Y beirniaid eleni yw Dave Acton (Larynx Entertainment), Huw Baines (The Guardian / NME / Kerrang), Tegwen Bruce Deans (music journalist), Mirain Iwerydd (BBC Radio Cymru), Nest Jenkins (ITV Cymru Wales Backstage) ac Eddy Temple Morris (Virgin Radio).

Wedi’i sefydlu yn 2011, mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu’r gerddoriaeth gorau o Gymru neu gan Gymry ledled y byd.

Gydag ymrwymiad i amrywiaeth a chynhyrchu cain, bydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn parhau i hyrwyddo cerddoriaeth newydd gorau Cymru.

Mae’r wobr yn agored i albymau o bob genre ac mae enillwyr y gorffennol wedi cynnwys Kelly Lee Owens, Adwaith, Boy Azooga, Deyah, Gruff Rhys, Gwenno a mwy.

Amser dechrau: 7.30pm

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.