Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni am i gynifer ohonoch â phosibl fwynhau lein-yp Llais 2023, felly rydyn ni’n cynnig 1000 o docynnau ar bris is i bobl sydd angen hyn fwyaf.

Gyda chostau byw yn cynyddu, gwyddom fod mynd i ddigwyddiadau diwylliannol yn anodd i lawer o’n cynulleidfaoedd. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd ond hoffech chi brofi Llais, mae hyn i chi. Rydyn ni hefyd am sicrhau bod ein cynulleidfaoedd mor amrywiol â’r artistiaid rydyn ni’n eu rhaglennu ar draws lwyfannau’r ŵyl.

Faint yw pris tocynnau?

Byddwch chi’n gallu dewis pa opsiwn prisiau sy’n addas i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Ein prisiau awgrymedig yw:

£2 – Rwy’n ddi-waith, wedi fy nhangyflogi, neu ni allaf weithio ac rwy’n poeni’n rheolaidd am ddiwallu fy anghenion sylfaenol

£5 – Mae gen i fynediad at incwm ond mae’n isel ac yn ansefydlog ac rwy’n poeni am ddiwallu fy anghenion sylfaenol

£8 – Rwy’n cael neu mae gen i fynediad at incwm rheolaidd a mynediad at rywfaint o incwm gwario. Bydden i fel arfer yn dewis cyfradd consesiwn ar gyfer digwyddiad oherwydd fy oed neu amgylchiadau personol

Pris a argymhellir ar gyfer tocynnau – Mae gen i fynediad at incwm rheolaidd a gwario, a gallaf fforddio’r pris a argymhellir ar gyfer tocynnau yn gyfforddus

Sut alla i wneud cais?

Mae'r cynllun hwn ar gau. 

TOCYNNAU CROESO

Bob blwyddyn rydyn ni’n cynnig miloedd o docynnau pris is i grwpiau cymunedol a chynulleidfaoedd fel bod mwy o bobl yn cael cyfle i brofi ein rhaglen. Ar hyn o bryd caiff y rhain eu dyrannu drwy ein rhwydweithiau. Mae eich rhodd yn ein helpu i wneud i hyn ddigwydd: www.wmc.org.uk/cy/ymuno-a-rhoi