Teyrnged ddoniol a thwymgalon i drysor cenedlaethol y mae colled enfawr ar ei hôl.
Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Paulus, seren sioe All Together Now BBC1, dyma sioe sy’n dangos ochr newydd i Paulus – fel edmygwr gydol oes y Frenhines Gomedi.
Dewch i ddathlu ei chymeriadau bythgofiadwy, ei chaneuon a’i sgetshis, a phŵer cyfeillgarwch a ddaw o chwerthin. O Mrs Overall i Barry & Freda. Wedi’i gyfarwyddo gan Sarah-Louise Young (An Evening Without Kate Bush) gyda Michael Roulston (Fascinating Aida) ar y piano.
"If you are a fan of Wood, or simply feel the need for some uplifting, live entertainment, then this is a must see."
Amser dechrau 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 14+
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.