Rhaid cael wyau siocled a chwningod gwlanog amser y Pasg. Ond byddwch yn ofalus, mae rhai o berfformwyr Clwb Cabaret Caerdydd wedi mynd â’r gwanwyn i le tywyll ac maen nhw’n barod i ymddwyn fel Glenn Close...
Sioe sbïo fwrlésg gomedi ryfeddol amgen gyda Cleopantha a Mario Morris a pherfformwyr o Glwb Cabaret Caerdydd gan gynnwys Foo Foo Labelle, Luna Ladybell, Kitty Katastrophe, Flissy Tease a Starlet Lee, a Seren Dipity.
Cleopantha
Mae Cleopantha, sydd wedi cael ei phleidleisio fel y ffigur bwrlésg mwyaf dylanwadol yn y DU ddwywaith, ac sydd ar hyn o bryd yn cael ei hystyried y trydydd artist bwrlésg mwyaf dylanwadol yn y byd, wedi ysgubo’r byd bwrlésg rhyngwladol. Mae’n adnabyddus am wthio ffiniau bwrlésg, gan gyfuno ei harddull dawnsio llawn egni â hiwmor a chrefft pryfocio.
Ar ôl gweithio i Cardi B yn ddiweddar, gan berfformio yn ei pharti pen-blwydd yn 30 yn Los Angeles, mae Cleopantha yn ailddiffinio beth mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu yw ystyr bwrlésg. Mae’n artist sy’n byw yn Llundain, ond mae’n falch iawn o ddod o ogledd Lloegr.
Mae’n gobeithio bydd y gynulleidfa yn mwynhau gwylio ei chelfyddyd gymaint ag y mae hi’n mwynhau ei pherfformio, ac mae’n teimlo ei bod yn bwysig nodi bod pob act yn cael ei pherfformio o’r galon. Mae’n annog pawb sy’n gwylio i beidio â bod ofn gwneud sŵn yn ystod ei pherfformiad ac i gael amser da wrth wylio.
MARIO MORRIS
Mario Morris – y dyn sy’n gwybod am beth rydych chi’n meddwl – swynwr comedi hynod. Mae’n perfformio hud annaearol a fydd yn achosi hwrdd o chwerthin a syndod. Efallai y byddwch chi’n cwestiynu eich synhwyrau, ac yn cael eich dychryn ychydig, ond byddwch chi’n cael hwyl ar yr un pryd.
Mae Mario wedi perfformio yn rhyngwladol mewn 27 o wledydd gwahanol. Ers dros ddegawd mae wedi bod yn berfformiwr gwadd blynyddol ac yn athro yn y Magic & Mystery School yn Las Vegas. Mae wedi ennill nifer o wobrau hud cenedlaethol.
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.