Dyma wahoddiad cynnes i chi i un o nosweithiau fwyaf cyffrous y ddinas.
Bydd House of Beauvoir a House of Valhalla yn cyflwyno digwyddiad pryfoclyd gyda’r gorau o’r sin bwrlesg Prydeinig, gan gynnwys dawnswyr a chantorion byw anhygoel a leinup gwych o gerddorion.
Y ‘chanson’ Ffrengig a pherfformwraig Oriana Curls fydd yn arwain y noson, gyda pherfformiadau gan y perfformwyr arobryn Beatrix Valhalla a Belle de Beauvoir.
Bydd y sioe’n cychwyn gyda pherfformiad jazz gan fand o dri dan arweiniad Pete Saunders (Dexys Midnight Runners) yn cyfeilio grŵp o sêr bwrlesg anhygoel sydd wedi ennill gwobrau, a chanu byw.
Dyma gyflwyno bwrlesg band byw clasurol gydag ambell i newid, ac mae’r merched yma i chwistrellu tamaid o gyffro i'r 2020au!
Amser cychwyn: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.