Bydd y sioe A Glittery Evening, sy’n cael ei chyflwyno gan Rahim El Habachi, yn cynnwys talent Fwyafrif Byd-eang anhygoel gyda dawnsio bol, canu, stand yp, geiriau llafar a LLAWER o gliter.
Gyda pherfformiadau gan Rokat, Frances Bolley, Tokkken Blaq, Ayoub Boukhalfa, Vish ac Alisha Raven.
Grŵp cymdeithasol yw Glitter Cymru a grëwyd yn 2016 i fwyhau lleisiau pobl Mwyafrif Byd-eang LHDTCRh+ yng Nghymru drwy weithdai, digwyddiadau, sgyrsiau a chyfarfodydd rheolaidd. Y mynychwyr yw pobl Mwyafrif Byd-eang lleol, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a myfyrwyr rhyngwladol sy’n uniaethu fel pobl Mwyafrif Byd-eang ac LHDTCRh+.
Amser dechrau: 6.30pm, drysau 6pm
Oed: 16+
Rhybudd: Iaith gref
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.