Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Llais 2023: Cyhoeddi’r actau cyntaf

Bydd Llais, ein gŵyl gelfyddydau ryngwladol, yn ôl rhwng 11 a 15 Hydref gyda rhaglen eclectig wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom ni – y llais.

Darganfyddwch y rhaglen

Mae’r don gyntaf o gyhoeddiadau yn cynnwys Both Sides Now: Celebrating Joni Mitchell – teyrnged i’r perfformiwr eiconig gyda lein-yp anhygoel o gantorion benywaidd gan gynnwys y seren o Gaerdydd Charlotte Church, yr aml-offerynnwr ESKA, Gwenno a’r gantores Brydeinig Laura Mvula. Bydd y pedair yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y perfformiad cerddorfaol cyntaf yn y byd o Both Sides Now. 

Ar ben hynny, bydd Bat for Lashes hefyd yn ymddangos yn Llais, gan berfformio caneuon eiconig o’i phum albwm a arweiniodd at ei thri enwebiad am y wobr Mercury. 

Bydd The Unthanks yn cynnal digwyddiad drwy’r dydd arbennig gan gynnwys cyngherddau, digwyddiadau cyfranogol a pherfformiadau o’u halbymau llwyddiannus The Bairns, Here’s The Tender Coming a Last. 

Bydd mwy o gerddoriaeth fyw gan Mariza, Qawwali Flamenco, The Staves, Tomos Williams ac Angeline Morrison yn ogystal â Battlescar, profiad realiti rhithwir a fydd yn eich cludo chi i’r byd pync yn Efrog Newydd yn y 1970au.  

Bydd hefyd amserlen lawn o weithdai a digwyddiadau rhad ac am ddim ym mhob cornel o Ganolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â rhai actau ychwanegol y byddwn ni’n eu rhannu dros y misoedd nesaf. Cadwch lygad allan!  

Mae’r ŵyl eleni wedi cael ei chyd-guradu gan Gwenno, a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am ei halbwm o 2014 Y Dydd Olaf, ac y cyrhaeddodd ei halbwm diweddaraf Tresor (2022) y rhestr fer ar gyfer y wobr Mercury. Bydd yn ymddangos ar lwyfan ein Theatr Donald Gordon ar y nos Sul gyda pherfformiad ôl-weithredol o ganeuon o’u tri albwm.

“Mae wedi bod yn bleser mawr curadu Llais eleni. Dwi’n falch o fod o Gaerdydd ac roedd hynny bob amser yng nghefn fy meddwl i wrth feddwl am berfformwyr ac artistiaid i ymuno â ni. Mae Caerdydd yn llawn tapestri cyfoethog o ddiwylliannau ac ieithoedd sy’n gwneud y ddinas yn unigryw ac yn rhan o’r byd, ac, yn enwedig y Dociau lle mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i lleoli, sy’n diffinio cymaint o’n hunaniaeth fel pobl o’r ddinas yma, ac roeddwn i’n anelu at ddathlu hyn. 

Dwi’n gobeithio y bydd Llais eleni yn ysbrydoli sgyrsiau parhaus ac yn fwy na dim, yn bleser llwyr i bawb sy’n dod.” 

Gwenno, Cyd-Guradur, Llais

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, credwn y dylai’r celfyddydau fod yn hygyrch i bawb, felly eleni am y tro cyntaf byddwn ni’n lansio tocynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad o’ch dewis a thalu beth y gallwch ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch yma.

Gallwch chi gael yr holl newyddion diweddaraf am Llais drwy ein dilyn ni ar Facebook, Twitter neu Instagram. 

#Llais2023