Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn croesawu plant o bob oed. Er mwyn cyfateb â gofynion trwyddedu'r Ganolfan, mae'n rhaid i bob un sy'n dod i'n gofodau perfformio, sef Theatr Donald Gordon a Stiwdio Weston, gael tocyn dilys, ac mae'n rhaid i blant dan 16 mlwydd oed eistedd gydag oedolyn cyfrifol (18+), rhiant neu warcheidwad, ac eithrio perfformiadau sydd wedi'u dynodi i rai ifanc.

Ni chaniateir i blant dan 2 flwydd oed eistedd mewn sedd eu hunain, mae'n rhaid i blant eistedd ar lin rhiant neu warcheidwad.

Mae'n rhaid i fabanod dan 2 flwydd oed gael tocyn baban (£2.00). Caiff baban dros 2 flwydd oed ei ystyried yn blentyn felly mae'n ofynnol iddyn nhw dalu pris plentyn ac mae'n rhaid iddyn nhw gael sedd eu hunain.

Nid yw rhai perfformiadau yn addas i fabanod neu blant bach.

Rydyn ni’n gofyn i aelodau’r cyhoedd ymgynghori ag aelod o staff am gyfyngiadau i berfformiadau gwahanol cyn prynu tocynnau, neu ymweld â’r Ganolfan.

Os oes amheuaeth, gofynnwch i aelod o staff y Swyddfa Docynnau cyn cadarnhau eich archeb.

Mae hawl gan y tîm rheoli orchymyn i oedolyn gymryd babanod neu blant allan o’r awditoriwm os ydyn nhw’n achosi aflonyddwch i’r perfformiad neu i’r gynulleidfa.