Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Galwad Agored: Celf Gyhoeddus | Arddangosfeydd 2024-25

Rydyn ni’n rhoi ein waliau a’n mannau cyhoeddus yn eich dwylo chi, ac yn llenwi’n hadeilad â lleisiau creadigol a chelf. Pa un ai a ydych yn artist sefydledig neu’n cychwyn arni, byddem ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi.

Azadi gan Naz Syed - Gaeaf 2022

Fel cartref creadigol i bawb, rydyn ni am wneud yn siŵr mai chi sy’n arwain ac yn dewis y  gwaith y byddwn ni’n ei raglennu a’i gefnogi. Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cydweithio â’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau, syniadau a storïau yn cael eu hadlewyrchu a’u dathlu ym mhob rhan o’r adeilad. O ganlyniad, rydyn ni wedi cydweithio â phobl na fydden ni fyth wedi’u cyfarfod fel arall.

Caiff arddangosfeydd eu rhaglennu drwy ein model cyllidebu cyfranogol, sy’n golygu bod ymgeiswyr yn pleidleisio dros y cais fwyaf addas yn eu barn hwy. Mae hyn i sicrhau bod ein rhaglen wedi’i chreu mewn ffordd ddemocrataidd, gennych chi, y gymuned.

Eleni mae nifer o gyfleoedd ar y gweill ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr i ddangos eu gwaith; darganfyddwch fwy isod.

Hijinx – I’w Osod ym mis Mehefin

I’w osod 2728 Mehefin | Cyllideb: £2500 (AR GYFER ARTISTIAID ANABL)

Mae’r galwad yma yn agored i artistiaid sy’n nodi eu hunain yn anabl a/neu’n niwrowahanol yn unig.

I gyd-fynd â Gŵyl Undod Hijinx, a chynhelir dros benwythnos 37 Gorffennaf, rydyn ni’n chwilio am ddarnau o gelf i’w gosod yn ardal ein bar Ffwrnais. Dim ond dwy ardal arddangos sydd, fel y gwelir yn y delweddau isod;

Arddangos – Cwtsh

Wal arddangos hir – llun

Rydyn ni’n chwilio am ddarnau sydd wedi’u creu drwy unrhyw gyfrwng ac yn seiliedig ar unrhyw thema. Yr unig ragofyniad yw bod modd arddangos y gwaith o system arddangos bar Ffwrnais. Gall y gelf fod o gasgliad sy’n bodoli’n barod, yn ddarnau unigol, yn ddarnau gan amryw o bobl sy’n ffurfio un casgliad, celf a grëwyd mewn sesiynau cymunedol, mae unrhyw beth yn bosib! Croesawir pob cais.

Bydd casgliad o waith sy’n llenwi’r gofod yn gyfan gwbl yn derbyn y ffi gyfan. I ddarnau llai neu waith gan sawl artist, byddwn yn trafod sut i rannu’r ffi gyda’r artistiaid llwyddiannus.

Rheolir y galwad yma gan ein proses cyllidebu cyfranogol arferol. Bydd gwaith y rheiny sy’n sgorio uchaf yn mynd i banel Hijinx a fydd hefyd yn pleidleisio drwy’r broses gyllido gyfranogol. Os fydd enillwyr cyfartal neu os fyddwn angen dewis rhagor o artistiaid er mwyn llenwi’r gofod, yna byddwn yn rhoi gwybod i’r holl gyfranogwyr a chaiff penderfyniad ei wneud gan y grŵp.

Dyddiad cau dydd Llun 13 Mai, i fynd at y panel i’w benderfynu’r wythnos yn cychwyn 20 Mai

Invisible Ocean – I’w osod ym mis Gorffennaf

I’w osod 23 Gorffennaf | Cyllideb: £2000

I gyd-fynd â phrofiad Invisible Ocean fydd yn BOCS dros yr haf, rydyn ni’n chwilio am gelf sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac yn benodol yn ffocysu ar y moroedd a’r cefnfor o’n hamgylch. Yn benodol, rydyn ni’n awyddus gweld celf sydd â neges amgylcheddol sy’n cysylltu â’r rheiny sydd am wneud newid cadarnhaol.

Caiff y gelf ei arddangos ym mar Ffwrnais, ac rydyn ni’n croesawu casgliadau a darnau unigol o gelf. Pan fydd darnau llai yn cael eu dewis byddwn yn trafod y ffi gyda’r artist/iaid .

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, dydd Llun 3 Mehefin 5pm – penderfyniad i’w wneud erbyn dydd Gwener 14 Mehefin

Pontypool – I’w osod ym mis Hydref

I’w osod 18/19 Hydref | Cyllideb: £2000

Ym mis Hydref, mewn pryd ar gyfer Calan Gaeaf, rydyn ni’n llawn cyffro i rannu ein cynhyrchiad newydd PONTYPOOL, addasiad llwyfan newydd gan Hefin Robinson o stori arswyd a ysbrydolodd y ffilm arswyd gwlt o’r un enw, a fydd yn cael ei gyfarwyddo gan Dan Phillips. 

Rydyn ni eisiau llenwi ein bar-caffi Ffwrnais â gwaith celf cyffrous.

Wedi’i osod yn ystod gaeaf caled ym Mhont-y-pŵl, mae DJ hynafol, sy’n darlledu o’r orsaf radio leol fach, yn clywed newyddion annifyr: mae torfeydd sy’n parablu yn ymgasglu wrth i derfysgoedd ddechrau yn y dref...

Rydyn ni’n chwilio am ddarnau sy’n gallu ategu’r sioe drwy ganolbwyntio ar yr eiliadau hynny mewn trefi bach sy’n gwneud i bawb boeni.

Neu

Gallech chi fod â chysylltiad â Phont-y-pŵl ac eisiau arddangos arwyr lleol neu’r bobl hynny sy’n mynd cam ymhellach dros eu cymuned, neu efallai fod gennych ddiddordeb mewn radio cymunedol ac eisiau arddangos gorsafoedd radio bach Cymru.

Byddem ni wrth ein bodd i glywed gennych.

Dyddiad cau: 8 Medi, 5pm

Gaeaf – I’w osod ym mis Tachwedd

I’w osod 20– 23 Tachwedd | Cyllideb: £2000

Rydyn ni am i chi greu rhywbeth trawiadol a hudolus sy’n dathlu’r hyn y mae tymor y Gaeaf yn ei olygu i chi. Dylai’r gwaith dalu teyrnged i’r golau a’r hyd sy’n ymddangos yn nhywyllwch y gaeaf. Rydyn ni am i’n hymwelwyr deimlo cynhesrwydd, llawenydd a rhyfeddod. Bydd hwn hefyd yn ymddangos ar waliau Ffwrnais.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy’n cynnwys casgliadau neu ddarnau unigol. Pan fydd darnau llai yn cael eu dewis byddwn yn trafod y ffi gyda’r artist/iaid .

Dyddiad cau 20 Medi, i gyrraedd penderfyniad erbyn 5 Hydref

Santes Dwynwen – Dyddiad gosod ym mis Ionawr

Dyddiad gosod ym mis Ionawr i’w gadarnhau | Cyllideb: £2000

I ddathlu Santes Dwynwen eleni, rydyn ni’n croesawu unrhyw waith celf sy’n ymwneud â themâu’r diwrnod, er mwyn eu harddangos yn ardaloedd bar Ffwrnais. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy’n cynnwys casgliadau neu ddarnau unigol.

Pan fydd darnau llai yn cael eu dewis byddwn yn trafod y ffi gyda’r artist/iaid .

Dyddiad cau 22 Tachwedd, i gyrraedd penderfyniad erbyn 2 Rhagfyr

Gallwch ddarllen am ein Galwad am gelf Cyhoeddus: Gaeaf blaenorol am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae ein cyllidebu cyfranogol yn gweithio, a darllenwch ragor am ein cyfleoedd creadigol.

 

Sut i wneud cais

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol Cymreig neu sy'n gweithio yng Nghymru. 

Gofynnwn i chi anfon:

  • Disgrifiad o’ch gwaith ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu sain (Ni ddylai disgrifiadau ysgrifenedig fod yn hirach nag un ochr papur A4)
  • Enghreifftiau o waith / digwyddiadau blaenorol
  • Dolenni i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, os oes gennych chi rai, neu ychydig o wybodaeth am y math o waith yr ydych chi’n ei wneud  

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth yma gydag ymgeiswyr eraill, felly gofynnwn i chi wneud yn siŵr eich bod yn fodlon â hyn, neu cysylltwch â ni i drafod.

Os hoffech drafod ymhellach neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Gemma drwy e-bostio cymuned@wmc.org.uk