Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n ein hariannu yn ein galluogi ni i gyrraedd cymunedau amrywiol a phobl ifanc ddifreintiedig drwy ein Rhaglen Dysgu Creadigol.

Rydyn ni'n mynd ati i godi arian er mwyn parhau â'n gwaith ar draws y meysydd prosiect canlynol:

  • Creu cynyrchiadau gwreiddiol a wnaed yng Nghymru megis Sioe Gerdd Tiger Bay, Only the Brave a Man to Man, sy'n arddangos talentau o Gymru ac yn adrodd straeon Cymreig.
  • Gŵyl y Llais – ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol ddwyflynyddol sy'n arddangos artistiaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol.
  • Cefnogi talent sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys artistiaid, cynhyrchwyr a phrentisiaid technegol sy'n datblygu.
  • Partneriaethau creadigol gydag elusennau ieuenctid, adfywio a chymunedol megis Plant y Cymoedd, Grassroots, Clybiau Bechgyn a Merched ac Oasis Caerdydd.
  • Ein tri maes craidd o ddysgu drwy greadigrwydd – Platfform Perfformio, Tu Ôl i'r Platfform a Radio Platfform.

"Gall dysgu drwy'r celfyddydau ymgysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc, cefnogi canlyniadau addysgol allweddol a datblygu sgiliau sy'n paratoi pobl ifanc at fywyd y tu hwnt i'r ysgol. Gall y profiadau mae'r celfyddydau'n eu cynnig arwain at newid mewn unigolion, gan annog creadigrwydd, lleihau achosion o allgáu a chynorthwyo â datblygiad cymdeithasol a phersonol."

PAUL HAMLYN FOUNDATION

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â cefnogwyr@wmc.org.uk