Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi ein cefnogi, gan gynnwys rhai na fyddan nhw’n costio ceiniog i chi.

Ond bydd pob tamaid o gefnogaeth yn ein helpu i ddatblygu ein gwaith creadigol a chymunedol er mwyn trawsffurfio rhagor o fywydau. Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch chi helpu:

Rhodd Cymorth

Os ydych chi'n talu treth yng ngwledydd Prydain, gallwch ychwanegu 25% at unrhyw roddion rydych chi wedi'u gwneud eleni – ac yn ystod y pedair blynedd diwethaf – dim ond drwy roi tic mewn blwch.

Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn ddiweddar ond yr hoffech chi wneud, mewngofnodwch i'ch cyfrif a diweddarwch eich dewisiadau Rhodd Cymorth yn yr adran Diweddaru Manylion y Cyfrif.

easyfundraising

Mae easyfundraising yn gweithio gyda dros 7,000 o bartneriaid a fydd yn cyfrannu rhan o’r hyn rydych chi’n ei wario at achos o’ch dewis, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

Gwirfoddolwch

Mae gwirfoddoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd cyffrous. Fe fydden ni wrth ein boddau yn eich croesawu i’n cymuned i'n helpu i sicrhau gwasanaeth heb ei ail. E-bostiwch gwirfoddoli@wmc.org.uk i fynegi eich diddordeb neu i gael rhagor o wybodaeth.

Prynu

Mae popeth a brynwch yn Ffwrnais, ein bariau theatr a Siop yn helpu i ariannu ein cenhadaeth i wella mynediad at y celfyddydau a gwneud yn siŵr ein bod ni’n gartref creadigol i bawb.

Rhoddion

Bydd prynu taleb rhodd neu aelodaeth rhodd ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru yn anrheg i rywun nid yn unig yn rhoi gwên ar eu hwyneb, bydd hefyd yn ein helpu ni i gadw fflam greadigol Cymru’n fyw.

Cymynroddion

Mae gadael rhodd i ni yn eich ewyllys yn ffordd arbennig iawn o gefnogi, gan helpu i sicrhau ein bod ni’n parhau i ysbrydoli cynulleidfaoedd, tanio’r dychymyg a meithrin creadigrwydd am genedlaethau i ddod. Ewch i weld rhagor o wybodaeth yma.