Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n llawn cyffro i lansio Cymdeithas CMC20; cynllun rhoi sy’n galluogi aelodau’r gymdeithas i ddod yn agosach at hud Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 20 oed.

Rydyn ni’n dathlu 20 mlynedd o Ganolfan Mileniwm Cymru; cartref creadigol i bawb. Ers agor ein drysau yn 2004 rydyn ni wedi tanio’r dychymyg drwy theatr, cerddoriaeth, opera, digwyddiadau cymunedol, cyfleoedd creadigol a phrofiadau digidol o’r radd flaenaf.

Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth pobl fel chi.

Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddathlu 20 mlynedd anhygoel gyda ni drwy ddod yn rhan o Gymdeithas CMC20. Byddwch chi’n ein helpu ni i ysbrydoli ein cenedl – a thu hwnt – am genedlaethau i ddod, tra eich bod chi’n mwynhau profiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn. Am gyfraniad o £2,500+ gall aelodau Cymdeithas CMC20 fwynhau holl fuddion lefel Partner Awen, yn ogystal â:

  • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig ychwanegol drwy gydol y flwyddyn
  • Arysgrif ar sedd yn ein Theatr Donald Gordon gyda neges o’ch dewis
  • Bathodyn CMC 20
  • Cydnabyddiaeth ar y safle, yn argraffedig ac ar-lein
  • Cerdyn diolch gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

I ymuno heddiw neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Cecily Morgan: cecily.morgan@wmc.org.uk

Ymunwch â ni i ddathlu 20 mlynedd o hud, llawenydd a chreadigrwydd.