Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyflwyno ein rhaglen am ddim

Gyda dim ond mis i fynd tan Llais 2022, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein rhaglen o ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n cael eu cynnal drwy’r penwythnos. O arddangosfeydd a sgyrsiau ysbrydoledig, i gerddoriaeth fyw ar lwyfan y Glanfa a gweithgareddau i bobl ifanc, bydd rhywbeth at ddant pawb.

Dydd Gwener 28 Hydref

The 8 men that make up Afro Cluster stand together in a graffitied alleyway.
Afro Cluster

Nos Wener byddwn yn cychwyn ein rhaglen gerddoriaeth rad ac am ddim ar lwyfan y Glanfa gyda noson wedi’i churadu gan Gyngor Hil Cymru yn cynnwys artistiaid Duon dawnus sy’n gwneud enw iddyn nhw’u hunain yn sîn gerddoriaeth Cymru. Cewch glywed cerddoriaeth gan Afro Cluster, Ify Iwobi, Dabs Calypso Trio, Baby Queens ac Anwar Siziba.

Dydd Sadwrn 30 Hydref

Gan ddechrau am 11am ar lwyfan y Lanfa, dewch i gael paned o’r Caffi a mwynhewch gyfres o sgyrsiau ar ystod o bynciau gan gynnwys y prosiect diweddar Troeon Machlud o dan arweiniad pobl ifanc Caerdydd, y frwydr dros leoliadau cerddoriaeth annibynnol, a phanel fydd yn cyflwyno rhai o’r menywod ysbrydoledig sy'n gweithio ym myd cerddoriaeth Cymru heddiw.

Aleghcia is a young black woman who is wearing a lime green shirt dress. She has long braided hair and has a massive smile on her face.
Aleighcia Scott

Yn ddiweddarach yn y dydd, bydd PRITT, Nia Wyn, Eadyth x Izzy a Miss Faithee, rhai o’r artistiaid mwyaf cyffrous sy’n dod i’r amlwg ym myd R&B a chanu enaid modern, yn perfformio’n fyw ar lwyfan y Lanfa wrth i ENAID // SOUL gymryd drosodd.

Am y tro cyntaf yn Llais, byddwn ni’n cynnal Hacio Bywyd, digwyddiad rhad ac am ddim i bobl ifanc 14-25 oed i gael profiad ymarferol gan weithwyr creadigol proffesiynol sy’n gweithio yma yng Nghymru. Tra rydych chi yma, cofiwch fynd i gael golwg ar yr arddangosfa Dysgu Creadigol yn Stiwdio dros dro Scratch (Ffresh gynt) lle gallwch weld gwaith celf a ffilmiau sydd wedi’u creu gan gyfranogwyr ein cyrsiau Llais Creadigol.

Dydd 30 Hydref

A boy on stage in silhouette with a red light behind him.
Theatr Ieuenctid

I ddechrau diwrnod olaf Llais, bydd cyfranogwyr ifanc dawnus ein cyrsiau Llais Creadigol yn dod â dwy awr o adloniant i lwyfan y Lanfa gyda dawnsio, canu a darnau perfformio wedi’u dyfeisio a’u crefftio gan aelodau ein Theatr Ieuenctid.

Bydd ein cyfres o sgyrsiau yn parhau gyda thrafodaeth banel am hanes systemau sain yn ogystal â thrafodaeth am wneud cerddoriaeth sydd ag ymgyrchu wrth ei gwraidd. Yn dilyn y sgwrs, bydd y panelydd Kara Jackson (cyn Fardd Cenedlaethol Ieuenctid America) yn perfformio.

Kara Jackson is a black woman who is wearing a bright orange long sleeved top.
Kara Jackson

Ddiwedd y prynhawn ar lwyfan y Glanfa, cewch glywed cerddoriaeth gan Gina Williams a Guy Ghouse, deuawd sy’n defnyddio’u cerddoriaeth a’u perfformiadau i amlygu un o’r ieithoedd mwyaf hardd a phrin ar y blaned; iaith Noongar o gornel ddeheuol Gorllewin Awstralia.

A black and white photo of three men performing with microphones. Two are wearing masks.
3 Hwr Doeth

Yn olaf, byddwn yn gorffen ein rhaglen rad ac am ddim wrth i un o labeli recordiau mwyaf drwg-enwog Cymru, Recordiau Noddfa, gymryd drosodd. Maen nhw wedi gwahodd tri o’u hartistiaid, 3 Hwr Doeth, Crinc a Pasta Hull i berfformio ochr yn ochr â HMS Morris a Melin Melyn ar gyfer noson sy’n siŵr o fod yn llawn gwallgofrwydd seicadelig. Peidiwch â’i fethu.

Peidiwch anghofio mynd i gael cipolwg ar arddangosfeydd Hanes Cerddoriaeth Caerdydd: Dinas Sain a Ffotograffiaeth Rap De Cymru fydd ymlaen yn y cyntedd drwy gydol yr ŵyl.

Allwn ni ddim aros i'ch croesawu i safle’r ŵyl eleni, safle heb ei debyg.

Bydd Llais ymlaen rhwng 26 a 30 Hydref. Mae tocynnau i ddigwyddiadau unigol ar werth nawr.