Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf, o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol.
Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru.
Rydyn ni hefyd yn elusen, yn cydweithio â sefydliadau, cymunedau a phobl ifanc i sicrhau bod y celfyddydau ar gael i bawb.
Rydyn ni’n ennyn angerdd dros y celfyddydau gyda chyfleoedd dysgu sy’n newid bywydau ac yn rhoi cyfleoedd i bobl ddisgleirio.
Bob blwyddyn rydyn ni’n denu 1.6m+ o ymwelwyr ac yn generadu £70m i fusnesau lleol.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Dyma sut rydyn ni’n cadw’n sbardun creadigol i fynd yn ystod yr argyfwng yma.

Newyddion
Ein newyddion, safbwyntiau a storiâu diweddaraf, yn cynnwys newyddion cefn llwyfan, cyfweliadau, digwyddiadau, blogiau a mwy.

Ein Gweledigaeth Artistig
Rydyn ni'n creu profiadau byw disglair sydd â gwreiddiau dyfnion yn niwylliant Cymreig i ddeffro'r meddwl ac ysbrydoli.

Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae cynulleidfaoedd a chymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma rai o'r mentrau rydym wedi ymrwymo i'w gyflawni.

Cysylltu, Creu a Dysgu
Ein nod yw sicrhau bod y celfyddydau yn agored i bob person ifanc yng Nghymru er mwyn iddyn nhw ehangu eu gorwelion.

Sefydliadau Preswyl
Rydyn ni'n gartref i wyth sefydliad diwylliannol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru a BBC NOW.

Arweinyddiaeth
Ein bwrdd o ymddiriedolwyr a'r uwch-dîm rheoli sy'n llywio ein gweledigaeth strategol.

Gyrfaoedd a swyddi
Darganfyddwch fwy am weithio yma, ein cyfleoedd cyfredol, buddion staff a’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig.

Ein Hymrwymiad Iaith
Mae dwyieithrwydd yn elfen hollbwysig o'n hunaniaeth.

Ein Hadeilad
O'r tanysgrifiad barddol i'r bensaernïaeth; dyma stori ein hadeilad eiconig.

Adolygiad Blwyddyn: 2018-19
Cymerwch gipolwg ar rai o’n uchafbwyntiau o’r flwyddyn ddiwethaf.