Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r brys o ran heriau amgylcheddol a chymdeithasol, sy’n golygu bod yr angen i weithredu yn gryfach nag erioed.

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn hynod bwysig i’n sefydliad ac mae’n un o’n blaenoriaethau strategol. Rydyn ni eisoes yn gwneud cynnydd gyda’r llwyfan ynni solar cyntaf ym Mhrydain. Ein nod yw bod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2035 drwy osod targedau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i leihau ein hallyriadau.

“Fel adeilad eiconig ym mhrifddinas Cymru, mae’n bwysig i ni ein bod ni’n hyrwyddo ein rhinweddau cynaliadwy ac yn dangos ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon... Mae defnyddio dull ataliol wrth fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol yn hollbwysig i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan sicrhau ein hymrwymiad parhaus i greu rhagolwg glanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”

Mat Milsom, Prif Weithredwr, Canolfan Mileniwm Cymru

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni wedi pennu targedau sero net ar gyfer ein sefydliad yn unol â menter Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned.

Ein nod yw:

  • Bod yn sero net mewn allyriadau Cwmpas 1 a 2 erbyn 2030
  • Bod yn sero net mewn allyriadau Cwmpas 3 erbyn 2035

Sut y byddwn ni’n cyflawni hyn

Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio tuag at safonau ISO14001 a Llyfr Gwyrdd y Theatr, ac yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:

  • Cynyrchiadau Cynaliadwy
  • Gweithrediadau Cynaliadwy
  • Adeiladau Cynaliadwy

Cynyrchiadau Cynaliadwy

Ein nod

Byddwn ni’n gweithio tuag at ddull sero net, gan ddefnyddio Llyfr Gwyrdd y Theatr fel pecyn cymorth arferion gorau. Rydyn ni’n anelu at gyflawni’r safon Sylfaen erbyn diwedd 2024, ac erbyn hynny byddwn ni hefyd wedi datblygu cynllun gweithredu cyflawnadwy ar gyfer y safon Canolradd ar gyfer ein cynyrchiadau ein hunain. Byddwn ni’n gweithio gyda chynhyrchwyr eraill i annog egwyddorion ac arferion y Llyfr Gwyrdd ar gyfer cynyrchiadau teithiol. Mae hyn yn cynnwys symud i ddull carbon sero net er mwyn arwain penderfyniadau rhaglennu o safbwynt gweithredol a sicrhau bod cyfran sylweddol o’n cynnwys yn canolbwyntio ar un elfen neu fwy o gynaliadwyedd.

Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yma?

  • Roedd thema hinsawdd gan ein gweithgarwch haf yn 2023
  • Rydyn ni wedi dechrau asesu ôl troed carbon ein harddangosfeydd
  • Rydyn ni’n ailddefnyddio ein setiau ac yn cefnogi yn y gwaith o’u hailgylchu lle bo modd er mwyn osgoi eu gwaredu
  • Rydyn ni wedi gweithio ochr yn ochr â’r National Theatre i gydgynhyrchu Nye i safon Sylfaen y Llyfr Gwyrdd ar gyfer perfformiadau cyhoeddus sy’n dechrau ym mis Mai 2024

Beth yw ein targedau nesaf?

Erbyn 2025:

  • Bydd 50% neu fwy o’n cynyrchiadau neu ein harddangosfeydd celfyddydau gweledol yn canolbwyntio ar thema cynaliadwyedd
  • Bydd 50% o’n cynyrchiadau, digwyddiadau a phrosiectau mewnol yn cyrraedd safon Sylfaen y Llyfr Gwyrdd

Gweithrediadau Cynaliadwy

Ein nod

Byddwn yn gosod cynaliadwyedd wrth wraidd penderfyniadau ynghylch sut rydyn ni’n gweithredu ac yn cynnwys ein gweithwyr, ein gwirfoddolwyr a’n hymwelwyr mewn diwylliant o gynaliadwyedd drwy ein rhaglenni a’n gweithgarwch.

Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yma?

  • Rydyn ni wedi lleihau gwastraff drwy ddefnyddio cynwysyddion bioddiraddadwy ac ailgylchu gwastraff bwyd cegin
  • Mae ein holl ddiodydd bar bellach yn cael eu gweini mewn cwpanau plastig y gellir eu hailddefnyddio sydd hefyd yn gwbl ailgylchadwy
  • Rydyn ni wedi symud i weini diodydd o ganiau lle bo modd gan eu bod yn defnyddio llai o ynni i’w hailgylchu na gwydr
  • Rydyn ni’n tynnu poteli diodydd meddal plastig untro o’n cynnig bwyd a diod erbyn diwedd 2024
  • Rydyn ni’n cydweithio â’r darparwr gwastraff bwyd Too Good To Go i leihau ein gwastraff bwyd ar ddiwedd pob diwrnod
  • Mae 98% o’n gwerthiannau tocynnau bellach yn ddigidol, gan leihau’r angen am docynnau papur
  • Rydyn ni’n cymryd rhan mewn partneriaeth gymdeithasol gyda chwmni diogelwch lleol ym Mae Caerdydd i annog cyflogaeth yn y gymuned. Mae pob aelod o’r tîm yn cerdded i’r gwaith.

Beth yw ein targedau nesaf?

Erbyn ail chwarter 2025:

  • Byddwn ni wedi datblygu modiwl e-ddysgu cynaliadwyedd a’i ychwanegu at ein cyfres o hyfforddiant ar MetaCompliance
  • Ein nod yw cyflwyno systemau ailgylchu arloesol newydd erbyn ail chwarter 2024
  • Bydd cynaliadwyedd yn dod yn rhan o’n hyfforddiant cynefino
  • Bydd gostyngiad o 25% mewn gwastraff bwyd gan denantiaid masnachol a’n mannau gwerthu bwyd ein hunain

Erbyn 2030:

  • Rydyn ni’n anelu at gael statws Di-blastig
  • Bydd 100% o’n gweithwyr wedi cael hyfforddiant cynaliadwyedd a byddwn yn cynnwys sesiwn gloywi flynyddol fel rhan o’n pecyn hyfforddi safonol
  • Bydd gennym gyfradd ailgylchu o 80%
  • Byddwn ni wedi gweithio gyda’n hunedau masnachol a’n stondinau dros dro i leihau plastigion untro a chynyddu didoli gwastraff

Adeiladau Cynaliadwy

Ein nod

Gan weithio gyda’n partneriaid a’n cyflenwyr, byddwn yn lleihau’r allyriadau o’n hadeilad i sero cyn gynted ag y bydd technoleg yn caniatáu.

Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yma?

  • Rydyn ni wedi gosod 720 o baneli solar ar ein to gan arbed mwy na 50 tunnell o garbon y flwyddyn, sy’n cyfateb i dalu’r gost o bweru ein holl berfformiadau llwyfan a gwresogi ac oeri ein theatr bob blwyddyn
  • Rydyn ni wedi disodli dros 70% o hen oleuadau aneffeithlon gyda bylbiau LED dros lawer o’r safle, gyda chynlluniau i barhau i newid y goleuadau sy’n weddill
  • Rydyn ni wedi cyflwyno system ddosio i’n trefn lanhau i ddileu’r angen am boteli plastig. Mae cemegau’n cael eu dosbarthu mewn pecynnau cynaliadwy a’u cymysgu ar y safle
  • Ar ôl 19 mlynedd gyda’n darparwr presennol, rydyn ni wedi newid ein cyflenwyr gwastraff i sicrhau ein bod ni’n cyrraedd ein targedau gwastraff i safleoedd tirlenwi
  • Rydyn ni wedi gosod cap ar dymheredd ein holl ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd i wneud arbedion amgylcheddol ac ariannol
  • Rydyn ni wedi newid ein System Rheoli’r Adeilad sy’n caniatáu i ni gael rheolaeth ragweithiol ar ynni
  • Rydyn ni’n falch o gael cefnogi Rhwydwaith Gwres Ardal Caerdydd Werddach a byddwn yn cysylltu â’r rhwydwaith yn 2024
  • Rydyn ni’n caffael ein trydan a’n nwy am bris gwell na gwerth y farchnad ac yn monitro ein defnydd yn ofalus drwy gydol y flwyddyn
  • Rhaid i unrhyw offer newydd rydyn ni’n ei brynu fod â sgôr ynni well na’r offer blaenorol, sy’n golygu ein bod yn gwella ein defnydd o ynni yn barhaus
  • Rydyn ni wedi ailgylchu 70% o’n dodrefn ar ôl cwblhau ein swyddfeydd newydd drwy newid y byrddau a gorchuddion cadeiriau yn lle prynu dodrefn newydd

Beth yw ein targedau nesaf?

Erbyn 2025:

  • Bydd gostyngiad o 50% mewn allyriadau carbon o’n hadeilad
  • Bydd gostyngiad o 20% yn ein defnydd o ddŵr
  • Bydd gan ein deg prif gyflenwr dargedau lleihau carbon yn unol â SBTi*

Ein cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd

Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal ein busnes mewn modd cyfrifol, i ddiogelu ein gweithwyr, gwirfoddolwyr, y cyhoedd a’r amgylchedd.

Byddwn ni’n ymdrechu i leihau ein defnydd (uniongyrchol ac anuniongyrchol), ac yn ailddefnyddio deunyddiau cymaint â phosibl.

Fyddwn ni ddim yn defnyddio deunyddiau crai nac yn gwaredu gwastraff oni bai y gallwn wneud hynny mewn modd diogel ac amgylcheddol dderbyniol.

Byddwn ni’n ymdrechu i sicrhau gwelliant parhaus yn ein perfformiad amgylcheddol a chyflawni hyn drwy fesur, monitro ac adolygu yn rheolaidd.

Byddwn ni’n defnyddio dull ataliol o ymdrin â phryderon amgylcheddol.

Byddwn ni’n dylunio ac yn defnyddio technolegau a gweithdrefnau gweithredu, yn paratoi ar gyfer argyfyngau ac yn gweithio i atal neu leihau rhyddhau gwastraff i’r aer, tir a dŵr.

 

Ein daliadau

Gofynnir i’n gweithwyr ystyried cynaliadwyedd ei weithgareddau wrth gwblhau tasgau, a chânt eu hannog i ystyried sut y gallan nhw gyfrannu at daith ein sefydliad tuag at gynaliadwyedd mewn ffordd greadigol.

Mae cyflawni ein hymrwymiad amgylcheddol:

  • Yn gyfrifoldeb unigol – mae ymddwyn yn unol â’r cyfrifoldeb yma’n amod o gyflogaeth
  • Yn gyfrifoldeb rheoli – mae gwneud hyn yn dda yn fesur pwysig o berfformiad rheolwyr

Mae’r datganiad polisi yma wedi’i ddatblygu a’i gymeradwyo gan ein tîm gweithredol a bydd yn cael ei rannu â’r holl weithwyr ar adeg eu cyflogi, yn rheolaidd (yn ôl yr angen) i’w hatgoffa o’r amcanion, a phryd bynnag y caiff ei ddiwygio neu ei ddiweddaru. Caiff y polisi yma ei adolygu yn rheolaidd gan y Tîm Rheoli Amgylcheddol drwy’r broses adolygu trefniadau rheoli. Mae’r adolygiadau rheolaidd yma’n gwerthuso’r polisi o ran natur, graddfa ac effeithiau amgylcheddol ein gweithrediadau a’n cynhyrchion.

Mae’r polisi yma ar gael i’r cyhoedd a phartïon eraill sydd â diddordeb ar gais.


Llofnodwyd

Mat Milsom (Mai 2024)

* https://sciencebasedtargets.org/resources/files/Net-Zero-Standard.pdf