Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae'r dudalen hon (ynghyd â'r dogfennau y cyfeirir atynt) yn nodi ar ba delerau y gallwch ddefnyddio ein gwefan yganolfan.org.uk (ein "gwefan"), naill ai fel gwestai neu fel defnyddiwr cofrestredig.

Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn dechrau defnyddio'r wefan. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn a'ch bod yn cytuno i lynu wrthynt.

Os nad ydych yn cytuno â'r telerau defnydd hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan.

GWYBODAETH AMDANOM

Yganolfan.org.uk yw'r wefan a weithredir gan Ganolfan Mileniwm Cymru, cwmni cyfyngedig drwy warant, sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr â'r rhif cwmni 3221924 a'r rhif elusen 1060458, y mae ei gyfeiriad cofrestredig ym Mhlas Bute, Caerdydd CF10 5AL ("ni" ac "ein").

MYNEDIAD I'N GWEFAN

Caniateir i chi gael mynediad i'n gwefan dros dro, a chadwn yr hawl i atal neu newid y gwasanaeth a ddarparwn ar ein gwefan yn ddirybudd (gweler isod).

Ni fyddwn yn atebol os na fydd ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod, am unrhyw reswm.

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn cyfyngu mynediad i rai rhannau o'n gwefan, neu ein gwefan gyfan, i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru â ni.

Os dewiswch neu os cewch god adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw wybodaeth arall fel rhan o'n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin y cyfryw wybodaeth yn gyfrinachol, ac ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, a ddewiswyd gennych chi neu a ddyrannwyd gennym ni, ar unrhyw adeg, os credwn nad ydych wedi cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau defnydd hyn.

Wrth ddefnyddio ein gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â darpariaethau ein polisi defnydd derbyniol.

Chi sy'n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i chi gael mynediad i'n gwefan.

Chi sy'n gyfrifol hefyd am sicrhau bod pawb sy'n cael mynediad i'n gwefan drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r telerau hyn a'u bod yn cydymffurfio â hwy.

HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL

Ni yw perchennog neu drwyddedai'r holl hawliau eiddo deallusol ar ein gwefan, a'r holl ddeunydd a gyhoeddir arni.

Diogelir y gweithiau hynny gan gyfreithiau a chytundebau eiddo deallusol ledled y byd. Cedwir yr holl gyfryw hawliau, gan gynnwys pob hawlfraint.

Bydd unrhyw nod masnach, logo, arwyddlun neu emblem adnabyddadwy arall sydd gennym yn parhau i fod yn eiddo i ni ac ni roddir nac awgrymir unrhyw drwydded na hawl i ddefnyddio'r rhain ac eithrio yn unol â'r telerau defnydd hyn.

Gallwch argraffu un copi, a gallwch lawrlwytho darnau, o unrhyw dudalen(nau) ar ein gwefan at eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill at ddeunydd sydd wedi'i bostio ar ein gwefan.

Ni ddylech newid copïau papur na chopïau digidol o unrhyw ddeunyddiau a argraffwyd neu a lawrlwythwyd gennych mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddarluniadau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain na graffigau ar wahân wrth unrhyw destun sy'n cyd-fynd â hwy.

Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron y deunydd ar ein gwefan bob amser.

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o'r deunyddiau ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu'n lawrlwytho unrhyw ran o'n gwefan mewn ffordd sy'n mynd yn groes i'r telerau defnydd hyn, caiff eich hawl i ddefnyddio ein gwefan ei diddymu ar unwaith a rhaid i chi, yn unol â'n dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau a wnaed gennych o'r deunyddiau.

DIBYNNU AR WYBODAETH SYDD WEDI'I PHOSTIO

Ni fwriedir i unrhyw sylwadau na deunyddiau eraill sydd wedi'u postio ar ein gwefan gael eu hystyried yn gyngor y dylid dibynnu arno.

Felly ymwadwn â phob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy'n codi os bydd ymwelydd â'n gwefan, neu unrhyw un a all gael gwybod am ei chynnwys, yn dibynnu ar y cyfryw ddeunyddiau.

MAE EIN GWEFAN YN NEWID YN RHEOLAIDD

Rydym yn ceisio diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg.

Os bydd angen, gallwn atal mynediad i'n gwefan neu ei chau am gyfnod amhenodol.

Gall unrhyw ddeunydd ar ein gwefan fod wedi dyddio ar unrhyw adeg, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i ddiweddaru'r cyfryw ddeunydd.

EIN HATEBOLRWYDD

Caiff y deunydd a ddangosir ar ein gwefan ei ddarparu heb unrhyw warantau, amodau na gwarantiadau o ran ei gywirdeb.

I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni, aelodau eraill o'n gr?p o gwmnïau a thrydydd partïon sy'n gysylltiedig â ni drwy hynny yn eithrio yn benodol:

  • Bob amod, gwarant ac unrhyw delerau eraill a all fod fel arall ymhlyg mewn statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.
  • Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n digwydd i unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â'n gwefan neu mewn cysylltiad â'r defnydd, yr anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwefan, unrhyw wefannau y ceir dolenni atynt ac unrhyw ddeunyddiau sydd wedi'u postio arni, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd am:

    • Golli incwm neu refeniw;
    • Colli busnes;
    • Colli elw neu gontractau;
    • Colli arbedion disgwyliedig;
    • Colli data;
    • Colli ewyllys da;
    • Gwastraffu amser rheolwyr neu amser swyddfa;

Unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, sut bynnag y bo'n digwydd a pha un a achoswyd gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), tor-contract neu fel arall, hyd yn oed os yw'n rhagweladwy, a bwrw na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golled neu ddifrod i'ch eiddo diriaethol nac unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol na chânt eu heithrio gan unrhyw un o'r categorïau a nodir uchod.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod ein hunain, nac ein hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio mewn perthynas â mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na'i gyfyngu o dan gyfraith gymwys.

GWYBODAETH AMDANOCH CHI A'CH YMWELIADAU Â'N SAFLE

Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â'n polisi preifatrwydd.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu i ni gymryd camau prosesu o'r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.

TRAFODION A GWBLHEIR DRWY EIN GWEFAN

Caiff contractau ar gyfer gwerthu tocynnau a gaiff eu llunio drwy ein gwefan neu yn sgil ymweliadau gennych eu llywodraethu gan ein Amodau Gwerthu.

LANLWYTHO DEUNYDD I'N GWEFAN

Pan fyddwch yn defnyddio nodwedd sy'n eich galluogi i lanlwytho deunydd i'n gwefan, neu gysylltu â defnyddwyr eraill ein gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â'r safonau cynnwys a nodir yn ein polisi defnydd derbyniol.

Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o'r fath yn cydymffurfio â'r safonau hynny, ac rydych yn ein hindemnio o ran unrhyw achos o dorri'r gwarantiad hwnnw.

Caiff unrhyw ddeunydd a lanlwythwyd gennych i'n gwefan ei ystyried yn anghyfrinachol ac yn amherchenogol, ac mae gennym yr hawl i ddefnyddio, copïo, dosbarthu a datgelu i drydydd partïon unrhyw gyfryw ddeunydd at unrhyw ddiben.

Mae gennym yr hawl hefyd i roi eich enw i unrhyw drydydd parti sy'n honni bod unrhyw ddeunydd a bostiwyd neu a lanlwythwyd gennych i'n gwefan yn torri ei hawliau eiddo deallusol, neu ei hawl i breifatrwydd.

Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys na chywirdeb unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd gennych chi nac unrhyw un arall sy'n defnyddio ein gwefan.

Mae gennym yr hawl i dynnu unrhyw ddeunydd neu eitem arall a bostiwyd gennych ar ein gwefan os na chredwn fod y cyfryw ddeunydd yn cydymffurfio â'r safonau cynnwys a nodir yn ein polisi defnydd derbyniol.

FEIRYSAU, HACIO A THROSEDDAU ERAILL

Ni ddylech gamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno'n fwriadol feirysau, trojanau, mwydon, bomiau rhesymeg na deunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol.

Ni ddylech geisio gael mynediad heb awdurdod i'n gwefan, y serfwr sy'n storio ein gwefan nac unrhyw serfwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata sydd wedi'u cysylltu â'n gwefan.

Ni ddylech ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.

Drwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

Byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdodau gorfodi perthnasol am unrhyw dorcyfraith o'r fath a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy roi eich manylion iddynt. Os bydd unrhyw dorcyfraith o'r fath, daw eich hawl i ddefnyddio ein gwefan i ben yn syth.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, feirysau neu ddeunydd technolegol niweidiol arall a all heintio eich cyfarpar cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchenogol arall ar ôl i chi ddefnyddio ein gwefan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni, neu unrhyw wefan y ceir dolen ati.

CREU DOLEN I'N GWEFAN

Gallwch greu dolen i'n hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon heb niweidio ein henw da na chymryd mantais ohono, ond ni ddylech osod dolen mewn ffordd sy'n awgrymu unrhyw gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni lle nad yw'r rhain ar gael.

Ni ddylech osod dolen ar unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.

Ni ddylid fframio ein gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni ddylech greu dolen i unrhyw ran arall o'n gwefan ar wahân i'r hafan.

Cadwn yr hawl i dynnu'r caniatâd hwn i osod dolenni yn ôl yn ddirybudd. Rhaid i'r wefan yr ydych yn creu dolen iddi gydymffurfio ym mhob ffordd â'r safonau cynnwys a nodir yn ein polisi defnydd derbyniol.

Os hoffech ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar ein gwefan ar wahân i'r hyn a nodir uchod, anfonwch eich cais i adborth@wmc.org.uk.

DOLENNI O'N GWEFAN

Lle bo ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig.

Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu'r adnoddau hyn, ac ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd i chi drwy eu defnyddio.

AWDURDODAETH A CHYFREITHIAU PERTHNASOL

Bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth unigryw dros unrhyw hawliad sy'n deillio o ymweliad â'n gwefan neu sy'n gysylltiedig ag ymweliad o'r fath. 

Caiff y telerau defnydd hyn ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n deillio ohonynt neu mewn cysylltiad â hwy neu eu pwnc neu'r ffordd y cawsant eu ffurfio (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau anghytundebol) eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a'u dehongli yn unol â hi.

AMRYWIADAU

Gallwn ddiwygio'r telerau defnydd hyn unrhyw bryd drwy ddiwygio'r dudalen hon. Disgwylir i chi ddarllen y dudalen hon o bryd i'w gilydd i nodi unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn gyfrwymol arnoch.

Gall rhai o'r darpariaethau yn y telerau hyn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn rhannau eraill o'n gwefan.

TORADWYEDD

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn barnu bod unrhyw un o'r telerau hyn (neu ran ohonynt) yn annilys, yn ddi-rym neu'n anorfodadwy, caiff ei ddileu a bydd yr amodau sy'n weddill yn para mewn grym llawn ac yn para i fod ag effaith lawn a byddant yn cael eu diwygio os bydd angen cyn belled ag y bo'n ofynnol er mwyn gweithredu'r telerau defnydd hyn.

EICH PRYDERON

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddeunydd sy'n ymddangos ar ein gwefan, cysylltwch ag adborth@wmc.org.uk

Diolch am ymweld â'n gwefan.