Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni am i bawb deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu pan fyddan nhw’n dod i gysylltiad â ni, p’un a ydych chi’n aelod o’n cynulleidfa, yn ymwelydd neu’n ymarferydd creadigol neu’n weithiwr llawrydd sy’n gweithio gyda ni.  

Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch pobl eraill, pan fyddwch chi ar y safle neu pan fyddwch chi mewn cysylltiad â ni, cwblhewch y ffurflen isod ac e-bostiwch hi i safeguarding@wmc.org.uk. Byddwn yn ymateb o fewn 48 awr.  

Os yw eich pryder yn un brys, cysylltwch â’r gwasanaethau brys neu linell gymorth NSPCC ar 0808 800 5000. NSPCC yw elusen blant flaenllaw’r DU, sy’n arbenigo mewn amddiffyn plant. 

Ffurflen: Rhoi Gwybod am Bryder Diogelu 

Mae’r ffurflen yma hefyd ar gael yn Saesneg.