Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae'r polisi defnydd derbyniol hwn yn nodi'r telerau rhyngoch chi a rhyngom ni sy'n berthnasol i'r defnydd a wnewch o'n gwefan wmc.org.uk (ein "gwefan").

Mae'r polisi defnydd derbyniol hwn yn berthnasol i bawb sy'n defnyddio ein gwefan ac yn ymweld â hi.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn ac yn cytuno i lynu wrth yr holl bolisïau yn y polisi defnydd derbyniol hwn, sy'n ategu ein telerau ar gyfer defnyddio'r wefan.

wmc.org.uk yw'r wefan a weithredir gan Ganolfan Mileniwm Cymru, cwmni cyfyngedig drwy warant, sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr â'r rhif cwmni 3221924 a'r rhif elusen 1060458, y mae ei gyfeiriad cofrestredig ym Mhlas Bute, Caerdydd CF10 5AL("ni" ac "ein").

DEFNYDD GWAHARDDEDIG

Dim ond at ddibenion cyfreithlon y gallwch ddefnyddio ein gwefan.

Ni allwch ddefnyddio ein gwefan fel a ganlyn:

  • Mewn unrhyw ffordd sy'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol.
  • Mewn unrhyw ffordd sy'n anghyfreithlon neu'n dwyllodrus, sydd at ddiben anghyfreithlon neu dwyllodrus neu sy'n cael effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
  • At y diben o niweidio neu geisio niweidio pobl ifanc dan oed mewn unrhyw ffordd.
  • Er mwyn anfon, derbyn yn fwriadol, uwchlwytho, lawrlwytho, defnyddio neu ailddefnyddio unrhyw ddeunydd nad yw'n cydymffurfio â'n safonau cynnwys, a nodir isod.
  • Er mwyn trosglwyddo unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo digymell neu anawdurdodedig neu unrhyw fath arall o ohebiaeth debyg (sbam), neu beri i ddeunydd o'r fath gael ei anfon.
  • Er mwyn trosglwyddo'n fwriadol unrhyw ddata, anfon neu uwchlwytho unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys feirysau, ceffylau Trojan, mwydon, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu godau cyfrifiadurol tebyg a gynlluniwyd i gael effaith andwyol ar y ffordd y mae unrhyw feddalwedd neu galedwedd gyfrifiadurol yn gweithio.

Rydych hefyd yn cytuno i'r canlynol:

  • Peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu unrhyw ran o'n gwefan yn groes i ddarpariaethau ein telerau ar gyfer defnyddio'r wefan.
  • Peidio â chael mynediad heb awdurdod i'r canlynol, ymyrryd â hwy, eu difrodi nac amharu arnynt:
  • unrhyw ran o'n gwefan;
  • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith lle caiff ein gwefan ei storio;
  • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu ein gwefan; nac
  • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith neu feddalwedd sy'n eiddo i unrhyw drydydd parti neu a ddefnyddir ganddo.

GWASANAETHAU RHYNGWEITHIOL

O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn darparu gwasanaethau rhyngweithiol ar ein gwefan, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad:

  • Ystafelloedd sgwrsio.
  • Byrddau bwletin.

("gwasanaethau rhyngweithiol").

Os byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol, byddwn yn rhoi gwybodaeth glir i chi am y math o wasanaeth a gynigir, pa un a yw'n cael ei gymedroli ac os felly, sut (gan gynnwys pa un ai pobl neu dechnoleg sy'n gwneud hyn).

Byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau posibl i ddefnyddwyr (ac yn enwedig plant) a berir gan drydydd partïon pan fyddant yn defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarperir ar ein gwefan ac ym mhob achos, byddwn yn penderfynu a yw'n briodol cymedroli'r gwasanaeth perthnasol (gan gynnwys y dull cymedroli i'w ddefnyddio) yng ngoleuni'r risgiau hynny.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i oruchwylio, monitro na chymedroli unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarparwn ar ein gwefan, ac eithriwn yn benodol ein hatebolrwydd dros unrhyw golled neu ddifrod sy'n digwydd ar ôl i ddefnyddiwr ddefnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol mewn modd sy'n groes i'n safonau cynnwys, pa un a gaiff y gwasanaeth ei gymedroli ai peidio.

Bydd unrhyw berson ifanc dan oed sy'n defnyddio ein gwasanaethau rhyngweithiol yn gwneud hynny yn amodol ar ganiatâd ei riant neu ei warcheidwad.

I'r rhieni hynny sy'n caniatáu i'w plant ddefnyddio gwasanaeth rhyngweithiol, cynghorwn ei bod yn bwysig eu bod yn siarad â'u plentyn am ei ddiogelwch ar-lein, gan nad oes unrhyw ddull cymedroli'n gallu rhoi sicrwydd llwyr.

Dylid rhoi gwybod i unrhyw bobl ifanc dan oed sy'n defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol am y risgiau a allai eu hwynebu.

Os byddwn yn cymedroli gwasanaeth rhyngweithiol, byddwn fel arfer yn ei gwneud yn bosibl i chi gysylltu â'r cymedrolwr, rhag ofn y bydd pryder neu anhawster yn codi.

SAFONAU CYNNWYS

Mae'r safonau cynnwys hyn yn berthnasol i unrhyw ddeunydd a gyfrannwch i'n gwefan ("cyfraniadau"), ac unrhyw wasanaethau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â hi. 

Rhaid i chi gydymffurfio ag ysbryd y safonau canlynol yn ogystal â chydymffurfio â hwy yn llythrennol. Mae'r safonau yn gymwys i bob rhan o unrhyw gyfraniad yn ogystal â'r cyfraniad yn ei gyfanrwydd.

Rhaid i gyfraniadau:

  • Fod yn gywir (lle y bônt yn datgan ffeithiau).
  • Bod yn ddiffuant (lle y bônt yn datgan barn).
  • Cydymffurfio â'r gyfraith berthnasol yn y DU ac unrhyw wlad lle gwneir y cyfraniad

Ni ddylai cyfraniadau:

  • Gynnwys unrhyw ddeunydd sy'n difenwi unrhyw un.
  • Cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n anllad, yn dramgwyddus, yn atgas neu'n ymfflamychol
  • Hyrwyddo deunydd rhywiol graffig.
  • Hyrwyddo trais.
  • Hyrwyddo gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, tueddfryd rhywiol neu oedran.
  • Torri unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach sy'n eiddo i unrhyw un arall.
  • Bod yn debygol o dwyllo unrhyw un.
  • Cael eu gwneud mewn ffordd sy'n mynd yn groes i unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy'n ddyledus i drydydd parti, fel dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd cyfrinachedd.
  • Hyrwyddo unrhyw weithgarwch anghyfreithlon.
  • Bod yn fygythiol, bod yn dreisgar neu darfu ar breifatrwydd unrhyw un arall, na pheri aflonyddwch, anghyfleustra na phryder diangen.
  • Bod yn debygol o beri gofid i unrhyw un arall, peri embaras iddo, ei ddychryn, ei gythruddo neu aflonyddu arno.
  • Cael eu defnyddio i ddynwared unrhyw un, neu gamliwio eich manylion personol neu eich cysylltiad ag unrhyw un.
  • Rhoi'r argraff mai ni sy'n gyfrifol amdanynt, os nad yw hynny'n gywir.
  • Cefnogi, hyrwyddo neu gynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon fel torri hawlfraint neu gamddefnyddio cyfrifiaduron (fel enghreifftiau yn unig)..

ATAL DROS DRO A THERFYNU

Byddwn yn penderfynu, yn ôl ein disgresiwn, pa un a ydych wedi torri'r polisi defnydd derbyniol hwn wrth i chi ddefnyddio ein gwefan.

Lle bo hynny wedi digwydd, gallwn gymryd unrhyw gamau sy'n briodol yn ein barn ni.

Drwy beidio â chydymffurfio â'r polisi hwn, byddwch yn torri, mewn ffordd berthnasol, y telerau ar gyfer defnyddio'r wefan sy'n caniatáu i chi ddefnyddio ein gwefan, a gallwn gymryd yr holl gamau canlynol yn eich erbyn neu rai ohonynt:

  • Tynnu'n ôl, dros dro neu'n barhaol, eich hawl i ddefnyddio ein gwefan.
  • Dileu, dros dro neu'n barhaol, unrhyw beth a bostiwyd gennych neu unrhyw ddeunydd a lanlwythwyd gennych i'n gwefan.
  • Rhoi rhybudd i chi.
  • Cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i adennill unrhyw gostau ar sail indemniad (gan gynnwys costau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) sy'n deillio o'ch methiant i gydymffurfio â'r polisi.
  • Cymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
  • Datgelu unrhyw wybodaeth sy'n rhesymol angenrheidiol yn ein barn ni, i awdurdodau gorfodi'r gyfraith.

Eithriwn atebolrwydd dros gamau a gymerir mewn ymateb i achosion o dorri'r polisi defnydd derbyniol hwn.

Nid ydym wedi ein cyfyngu i'r ymatebion a ddisgrifir yn y polisi hwn, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill y mae'n rhesymol i ni dybio eu bod yn briodol.

NEWIDIADAU I'R POLISI DEFNYDD DERBYNIOL HWN

Gallwn ddiwygio'r polisi defnydd derbyniol hwn unrhyw bryd drwy ddiwygio'r dudalen hon.

Disgwylir i chi ddarllen y dudalen hon o bryd i'w gilydd i nodi unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn gyfrwymol arnoch.

Gall rhai o'r darpariaethau yn y polisi defnydd derbyniol hwn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn rhannau eraill o'n gwefan.