Fel cwmni cyfyngedig trwy warant, mae hawl gan Ganolfan Mileniwm Cymru roi ei pholisi ei hunan ar waith o ran materion sy’n delio ag eitemau coll a rhai sydd wedi’u canfod yn y Ganolfan.
Er bod hawl gan y cwsmer i roi gwybod i’r Heddlu eu bod wedi colli neu ddarganfod eitem yn y Ganolfan, mae’n hanfodol fod y Ganolfan yn dilyn ei threfn ei hunan wrth gofnodi’r holl eitemau sydd wedi eu colli a’u canfod.
I unrhyw un sydd angen cymorth neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464.
Y drefn a ddilynir unwaith mae unrhyw beth ar goll neu wedi cael ei ganfod:
- Caiff unrhyw eiddo y mae cwsmer wedi ei golli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ei gofnodi ar fas data Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid y Ganolfan.
- Mae pob eitem sydd wedi ei ganfod yn cael eu cadw mewn man diogel yn y Ganolfan ac yn aros yno hyd nes y caiff ei gasglu, neu am gyfnod o bum wythnos, pa un bynnag yw’r cyfnod hiraf.
- Yn y cyfamser, gwneir pob ymdrech posibl i ddarganfod ac i gysylltu â pherchennog yr eiddo sydd wedi ei ganfod
Ar ôl pum wythnos o gael eu cadw:
- Hysbysir yr awdurdodau perthnasol am bob pasbort ac unrhyw ddeunydd adnabod personol ar unwaith ac, ar ôl pum wythnos, mae’r awdurdod perthnasol yn ein cynghori ar sut i gael gwared â’r eitemau yma’n gywir.
- Ffônau symudol - caiff y cerdyn SIM ei ddinistrio ac mae’r ffôn ei hunan yn cael ei rhoi i Sefydliad y Deillion, Caerdydd ar gyfer eu cynllun ailgylchu. Unwaith mae’r ffôn wedi cael ei roi i Sefydliad y Deillion Caerdydd, cyfrifoldeb yr elusen yw cael gwared ar unrhyw wybodaeth sydd ar y ffôn.
- Allweddi - mae Tîm Diogelwch y Ganolfan yn eu dinistrio a chael gwared arnynt yn ddiogel.
- Cardiau banc - hysbysir yr awdurdodau perthnasol ar unwaith ac, ar ôl y cyfnod o bum wythnos, mae’r awdurdod perthnasol yn ein cynghori ar sut i gael gwared â nhw.
- Arian parod - Fe’u rhoddir fel rhodd i Ganolfan Mileniwm Cymru
- Pwrs/Waled - Mae’r wybodaeth bersonol yn cael ei dinistrio ac rydym ni’n cael gwared arni’n ddiogel. Yna, caiff ei drin fel eitem gyffredin.
- Meddyginiaethau - cânt eu cadw’n ddiogel am bum wythnos, yna cânt eu rhoi i’r fferyllfa gael gwared arnynt yn ddiogel. Ar ôl cyfnod o bum wythnos, mae’r eitemau eraill sydd heb gael eu hawlio yn cael eu cynnig ar werth fel rhan o broses ocsiwn caeedig i staff Canolfan Mileniwm Cymru a’r cwmnïau preswyl. Caiff y broses yma ei chynnal gan dîm Datblygu'r Ganolfan, a chaiff yr arian a godir ei roi fel cyfraniad i Ganolfan Mileniwm Cymru, Rhif Elusen 1060458. Bydd unrhyw eitem na chaiff ei hawlio ar ôl y broses yma un ai’n cael ei ailgylchu neu ei roi i Ofal Canser Marie Curie.
Byddwn ni’n cael gwared ar unrhyw eitem sydd heb ei hawlio ar ddiwedd diwrnod masnachu’r Ganolfan. (Gan gynnwys unrhyw lestri bwyd).
Anogir y cwmnïau manwerthu yn y Ganolfan i roi unrhyw eitem sydd wedi’i ganfod i’r Cynrychiolydd Gwybodaeth ar y ddesg flaen, er nad oes unrhyw ddyletswydd arnynt i wneud hynny. Bydd rhai manwerthwyr yn dilyn trefn eu hunain.