Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

ARDALOEDD CYHOEDDUS YN UNIG

Caiff y term ‘trothwy’ (neu watershed yn Saesneg) ei ddefnyddio i gyfeirio at yr adeg y gellir dangos cynnwys sy’n addas i oedolion ar ôl hynny.

Fel arfer, caiff hyn ei ddiffinio fel delweddau neu iaith sy’n darlunio neu’n cyfeirio at gynnwys rhywiol eglur, trais graffig, defnyddio cyffuriau neu ddefnyddio iaith gref.

Ym maes darlledu, mae’r trothwy wedi’i osod am 9pm ac mae’n rhaid i bob rhaglen lynu at y polisi yma.

Mae’r Ganolfan yn cydnabod fod polisi trothwy sy’n gymwys ym mhob gofod cyhoeddus a blaen y ty yn galluogi’r Ganolfan i wireddu ein dyletswydd gofal tuag at blant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed sy’n dod i’r Ganolfan.

Mae’n cydnabod cyfrifoldeb y Ganolfan i sicrhau fod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i wneud yn siwr fod pob ymwelydd yn cael eu diogelu’n briodol.

Bydd y Ganolfan yn gwneud pob ymdrech i rwystro’r defnydd o ddeunydd a allai gael ei ystyried yn anaddas sydd wedi’i raglennu cyn y trothwy 9pm; fodd bynnag, bydd rhai amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.

Byddwn ni’n codi arwyddion ac yn gwneud cyhoeddiadau os ydyn ni’n ystyried y gallai deunydd gael ei ystyried yn anaddas gan rai aelodau’r gynulleidfa.

Mewn rhai achosion, gwerthir tocynnau i rai perfformiadau neu ddigwyddiadau gyda chanllaw oed priodol wedi’i nodi’n glir ar-lein ac mewn deunydd marchnata.

Fodd bynnag, mae safonau a theimladau cynulleidfaoedd yn amrywio’n fawr ac mae’n rhaid i berfformiadau adlewyrchu gwahanol brofiadau, ffyrdd o ddefnyddio iaith a realiti bywyd pobl yn deg ac yn gywir.

Oherwydd bod ymwybyddiaeth (sensibilities) plant yn amrywio’r un mor eang ag oedolion mae rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid yn rhannu’r cyfrifoldeb o asesu p’un a yw cynnwys rhaglen yn addas i’w plant, yn seiliedig ar eu disgwyliadau o’r cynnwys hwnnw.