Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Efallai bod y Gaeaf yn hardd, ond weithiau gall achosi problemau teithio i’n cwsmeriaid â thocynnau.

Wrth i’r tywydd waethygu, mae’n anochel y bydd adegau pan fydd cwsmeriaid yn teimlo nad yw teithio i’r Ganolfan yn ddiogel nac yn ddoeth.

Er hynny, yn dilyn traddodiad y theatr, bydd y perfformiad yn mynd yn ei flaen er gwaethaf y tywydd.

Ni all y Ganolfan benderfynu pryd mae’n ddiogel i deithio - rhaid i’r unigolyn benderfynu hynny dros eu hunain.

Unwaith mae gwesteion yn prynu tocynnau, derbynnir yn gyffredinol taw cyfrifoldeb yr unigolyn yw hi i gyrraedd y Ganolfan ar amser.

Os ydych chi’n dewis teithio i’r Ganolfan yn y tywydd gwael i gyrraedd y perfformiad mewn amser, cofiwch adael digon o amser i gyrraedd yn ddiogel.

Ni allwn ad-dalu unigolion sy’n teimlo nad ydynt yn gallu teithio. Er hynny, rydyn ni’n hyblyg o ran cynnig y gellir cyfnewid y tocynnau cliciwch yma am wybodaeth neu, fel dewis arall, bydd y Ganolfan yn derbyn tocynnau yn ôl i’w hailwerthu cliciwch yma am wybodaeth.

Bydd y Ganolfan yn rhoi gwybod i gwsmeriaid os oes unrhyw newidiadau i amserlen y perfformiad.

Ond ar achlysur pan mae’r tywydd yn hynod o arw, os ydych chi’n teimlo na fydd hi’n bosibl i chi ddod i’r perfformiad, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau cyn gynted âg sy'n gyfleus am gyfarwyddiadau pellach.