Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Fork in the Road

Fork in the Road

Stori am ddyn ifanc sydd wedi llwyddo i osgoi marwolaeth sawl gwaith yn ystod ei fywyd byr.

Dinistriodd milwyr gwrthryfelgar ei bentref; treuliodd dair blynedd ar ffo ar ôl dianc rhag gorfod bod yn blentyn-filwr; a bu’n byw yn y goedwig fel anifail, yn goroesi afiechyd, newyn, llwytholiaeth a chwalfa feddyliol enbyd o ganlyniad i’r trawma a brofodd yn y rhyfel.

Yn dilyn hyn, treuliodd 16 mlynedd mewn gwersyll ffoaduriaid heb obaith am ddyfodol y tu hwnt i’r cyfyngiadau o gael ei labelu’n “ffoadur”.

Rhannodd Benson Wereje ei stori a’i daith ryfeddol.