Dychwelodd JOHN CALE, aelod sefydlu un o fandiau mwyaf diffiniol ein cenhedlaeth, i Gaerdydd ar gyfer perfformiad unigryw yng Ngŵyl y Llais.
Yn fuan ar ôl rhyddhau ei albwm newydd, M:FANS / Music For A New Society, gwelwyd Cale yn gweithio gydag Ensemble a Chôr Gŵyl y Llais, wedi’u cydlynu gan Lucy Morgan, i berfformio cerddoriaeth o’i gasgliad rhyfeddol.