Mae’r ensemble lleisiol LE MYSTERE DES VOIX BULGARES, sydd wedi ennill Gwobr Grammy, yn cyfuno harmonïau gwefreiddiol ag alawon teimladwy i “blymio i ddyfnder y tristwch a dringo i uchelfannau ecstasi” (The Guardian). Fe ddaethon nhw â’u sain hynod i Eglwys Gadeiriol Llandaf mewn perfformiad cyfareddol.