Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Charlotte Church: Utopia

Charlotte Church: Utopia

Roedd Utopia, oedd wedi’i guradu gan Charlotte Church, yn dod ag amrywiaeth cyferbyniol o leisiau ynghyd o feysydd cerddoriaeth byd, cabaret, electronica, synth-pop a gwerin, i gyd yn swatio gyda’i gilydd fel cyfeillion mynwesol.

Prosiect unawdol newydd yw ionnalee gan Jonna Lee, sef creawdwr y ffenomen pop electronig clyweled iamiwhoami. Mae hi'n ymchwilio marwolaeth a chreu etifeddiaeth yn ei halbwm a ffilm drawiadol EVERYONE AFRAID TO BE FORGOTTEN.

Mae Fatoumata Diawara yn fardd-gantores gryglyd â thraw perffaith. Magwyd Diawara ar gerddoriaeth Wassoulou, arddull a ystyriwyd yn un o gyndadau'r blŵs. Cyd-gynhyrchwyd ei halbwm gan Mathieu Chedid (-M-) ac mae'n ymdoddi synau traddodiadol a chyfoes Affricanaidd.

Mae gwaith Le Gateau Chocolat yn ymestyn y tu hwnt i fyd perfformiadau drag i opera gyfoes ac ymhellach fyth - dyma chwedl cabaret sydd wedi perfformio ar lwyfannau mawr ledled y byd o Adelaide i Edinburgh, a Wroclaw i Sydney.

Mae Talia Randall wedi ennill gwobrau am ei pherfformiadau doniol, gwleidyddol a gwefreiddiol. Fel person dyslecsig a godwyd mewn cartref lle'r oedd y parch mwyaf i fwyseiriau, jôcs ac ystyron deublyg, datblygodd Talia ei llais yn yr enwog Roundhouse Poetry Collective.