Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Karine Polwart

Karine Polwart

Bob hydref, bydd dwy fil a hanner o wyddau troedbinc yn hedfan o Wlad yr Iâ a’r Ynys Werdd i fwrw’r gaeaf yn Fala Flow, sef mawnog wedi’i gwarchod i’r de-ddwyrain o Gaeredin.

O’r waun wyntog hon, mae KARINE POLWART, y gantores-gyfansoddwraig a’r awdur sydd wedi ennill llu o wobrau, yn synfyfyrio ynghylch y tirlun o'i hamgylch drwy edrych ar hanes, byd adar ac atgofion personol.

Fe gawn ein cyflwyno i hanesion am loches, am famolaeth, am heidiau o wyddau, am un o sêr pêl-droed yr Alban, ac am feddyginiaeth ganoloesol, a’r cyfan yn gyfuniad cyfareddol o stori a chân.

Mae Wind Resistance yn ysgrif gerddorol y gallwch ymgolli ynddi’n llwyr. Mae’n fyfyrdod ynghylch lloches.

Mae’n ddyddiadur cerddwr ar y rhos. Mae’n atgofion ynghylch mamolaeth. Ac mae’n gyflwyniad archeolegol i wyddoniaeth hedfan a phêl-droed, meddyginiaeth ganoloesol a thosturi. Mae hi’n stori hudolus ac emosiynol.

Cyd-gynhyrchiad rhwng Karine Polwart a’r Royal Lyceum Theatre, Caeredin yw Wind Resistance. Fe’i cyflwynwyd yn wreiddiol ar y cyd â Gŵyl Ryngwladol Caeredin, gyda chymorth Cronfa Expo Gwyliau Caeredin Llywodraeth yr Alban.