15 mlynedd ar ôl rhoi’r gorau iddi, mae ARAB STRAP nôl gydag albwm newydd, seiniau newydd a dymuniad newydd i chwilio.
Dechreuodd y deuawd arloesol o Falkirk, Aidan Moffat a Malcolm Middleton, gan rannu eu tapiau a’u recordiwyd adref gyda’u ffrindiau, ond ar ôl llwyddiant eu sengl gyntaf digyffelyb ‘The First Big Weekend’ roeddent ymysg rhai o gerddoriaeth fwyaf cyffrous ac annwyl yr Alban.
Mae eu cymysgedd deheuig cyfarwydd o seinweddau ôl-roc, electroneg ysgafn, curiadau drwm yn clicio a llinynnau’n chwyddo nawr yn cyfuno gyda chwythiadau sacsoffon chwil, rhigolau disgo a chynhyrchiant cyfoethog sy’n eich trochi chi yn y straeon.
Fel meddai Middleton i'r Guardian, “There's no point getting back together to release mediocrity.”
Yn ôl yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers ailffurfio, mae Arab Strap yn perfformio yng Ngŵyl y Llais am y tro cyntaf ddydd Sul.
“A dingy, debauched and tragi-comic universe.”
NME