Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Keynote Address by Brian Eno

Keynote Address by Brian Eno

Bydd y cerddor, cynhyrchydd, artist gweledol, meddyliwr ac actifydd BRIAN ENO yn agor Gŵyl y Llais eleni gydag araith gyweirnod â'r teitl 'Does Art Help?

Daeth Brian Eno i'r amlwg yn rhyngwladol yn y 70au cynnar fel aelod sefydlol o’r band Prydeinig Roxy Music, ac yn syth ar ôl hynny daeth cyfres o albymau unigol â dylanwad mawr, gan fathu’r term ‘cerddoriaeth amgylchynol’.

Mae ei gynhyrchiant gweledigaethol yn cynnwys albymau gyda Talking Heads, Devo, U2, Laurie Anderson a Coldplay, tra bod ei restr hir o gydweithrediadau yn cynnwys recordio gyda David Bowie, David Byrne, Grace Jones, Karl Hyde, James Blake a sawl un arall.

Mae ei arbrofion gweledol gyda golau a fideo yn parhau i gyfochri ei yrfa gerddorol gydag arddangosfeydd ar draws y byd, o'r Biennale yn Fenis a’r Palas Marmor yn St Petersburg i Barc Ritan yn Beijing a hwyliau Tŷ Opera Sydney.

Yn ddiweddar mae e wedi gweithio ar gyfres o albymau unigol newydd, traciau sain, albwm ar y cyd â’i frawd Roger Eno, a chyflwyno darlithoedd gwadd ar draws y byd ar destunau megis creadigrwydd, diwylliant ac ystyr celf.

“thoughtful and illuminating”

The Independent

MWY GAN BRIAN ENO