Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Max Richter + Sinfonia Cymru

Max Richter + Sinfonia Cymru

Mae MAX RICHTER, y cyfansoddwr a’i henwebwyd am Emmy, yn ymddangos am y tro cyntaf yng Nghymru gan gyflwyno VOICES gyda Sinfonia Cymru.

Mae gwaith Max Richter yn corffori llymder y traddodiad Clasurol a dulliau arbrofol yr electronica gyfoes. Yn diarfogi â gonestrwydd; mae ei gerddoriaeth, er gwaetha’r soffistigedigrwydd sydd ar ei sylfaen, dal yn hygyrch.

Crewyd mewn cydweithrediad â’r enillydd BAFTA a dyngarwraig Yulia Mahr, mae VOICES yn 56 munud o gerddoriaeth ar gyfer cerddorfa, côr, electroneg, soprano unigol, ffidil unigol a phiano unigol, a rydhawyd yn ystod cyfnod clo yn 2020. Mae’r gerddorfa’n ensemble sydd wedi’i ailddychmygu a’i alw’n “negative orchestra”. Gan fod y byd wedi’i droi ben ei waered, felly hefyd yw cyfrannau’r gerddorfa hon. Basgrythau a soddgrythau yw’r cyfan, bron.

Yn ogystal â darlleniadau gan adroddwr, mae cannoedd o ddarlleniadau o’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol mewn dwsinau o ieithoedd wedi’u canfod o bob cwr y byd ar gyfer y gwaith hwn. Tirlun clywedol yw’r darlleniadau hyn, ac mae’r gerddoriaeth yn llifo trwyddo: nhw yw’r lleisiau sydd yn nheitl y gwaith.

Geiriau agoriadol y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, fel y drafftiwyd yn 1948, yw “Genir pawb yn rhydd ac yn gydradd â'i gilydd mewn urddas a hawliau.” Mae VOICES yn ofod cerddorol i ailgysylltu â’r egwyddorion ysbrydoledig hyn.

Yn ymuno â Richter bydd yr ffidilydd unawdol Mari Samuelsen, yr arweinydd Robert Ziegler, yr adroddwr Imtiaz Dharker, ac ensemble 27-aelod gan Sinfonia Cymru, prif gerddorfa’r DU o aelodau dan 30 mlwydd oed.

“Max Richter is that rare avant-garde composer guided by raw emotion as much as by steely intellect.”

The Quietus

MWY GAN MAX RICHTER