Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Abdullah Ibrahim

Abdullah Ibrahim

27 Hydref 2022

Mae pianydd mwyaf nodedig De Affrica, ABDULLAH IBRAHIM, yn perfformio sioe unigol dreiddgar agos-atoch.

Gan fynd â ni ar daith ysbrydol fythgofiadwy trwy gospel a jive, jazz Americanaidd a chlasurol – mae disgwyl y cysegredig a’r seciwlar.

Wedi’i eni yn Cape Town, cafodd ei alw yn ‘Mozart De Affrica’ gan Nelson Mandela.

Ac yntau yn ymgyrchydd gwrth apartheid, mae cerddoriaeth Ibrahim wedi olrhain cynnwrf hanes ei famwlad, gan gydweddu ei frwydrau yn y gorffennol a’i optimistiaeth i’r dyfodol trwy gerddoriaeth o obaith mawr a dwyster myfyriol.

Mae Ibrahim yn cael ei ystyried yn ffigwr blaenllaw yn is-genre jazz Cape. Tu fewn i jazz, mae ei gerddoriaeth yn adlewyrchu dylanwad Thelonious Monk a Duke Ellington a daeth ei ddarn jazz 'Mannenberg', yn anthem gwrth-apartheid nodedig.

MORE FROM ABDULLAH IBRAHIM