Perfformiadau bob awr rhwng 12pm - 8pm
Boneddigion a boneddigesau, hoffem dynnu eich sylw at yr arddangosiad diogelwch ar yr awyren a gofynnwn i chi wrando.
Os byddwn yn colli gwasgedd yn y caban yn sydyn, sy’n annhebygol, caiff senarios gwahanol eu darparu. Caiff perthnasau agosaf eu darparu. Caiff pwdinau ychwanegol eu darparu. Gobennydd ychwanegol. Trwmpedau a gongiau. Nid yw’r Nefoedd nac Uffern yn sicr. Nid ydym yn gyfrifol am eich cyrchfan terfynol.
Mae’r Dehongliad Sawl Byd o fecaneg gwantwm yn cynnig bod yr holl ganlyniadau posibl a allai ddigwydd yn cymryd lle mewn bydoedd di-rif o debygrwydd amrywiol. Efallai fod rhywfaint o gysur o wybod ni waeth pa mor wael yw’r dewisiadau rydych chi wedi’u gwneud, mae fersiwn ohonoch chi sydd wedi gwneud rhai gwell ac sy’n ddioddef llai o ofid a chywilydd.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Festival%20of%20Voice/LLAIS%202022/FLIGHT/16.jpg)
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Festival%20of%20Voice/LLAIS%202022/FLIGHT/Copy_of_Flight_-_Sean_Pollock_Photography_Canary_Wharf.jpg)
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Festival%20of%20Voice/LLAIS%202022/FLIGHT/darkfield-11.jpg)
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Festival%20of%20Voice/LLAIS%202022/FLIGHT/darkfield-12.jpg)
Mae FLIGHT yn cymryd lle mewn tywyllwch llwyr mewn cynhwysydd cludiant 40 troedfedd. Mae’r tu mewn yn union yr un peth â chaban economi Airbus 320 a dros 30 munud bydd y profiad yn archwilio’r Dehongliad Sawl Byd o fecaneg gwantwm, gan dywys aelodau’r gynulleidfa drwy ddau fyd, dau realiti a dau ganlyniad posibl i’w taith. Mae sawl byd lle mae’r awyren hon yn glanio’n ddiogel.
Cyfyngiad oedran: 14+
Bydd y profiad yn rhedeg unwaith yr awr, ac mae’n para 30 munud. Ni chaniateir hwyrddyfodiaid.
Rhybudd am Sbardunau: Bydd y profiad mewn tywyllwch llwyr ac mae’n bosibl na fydd yn addas i bobl sydd â chlawstroffobia.