Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Am Ddim: Gina Williams a Guy Ghouse

Am Ddim: Gina Williams a Guy Ghouse

30 Hydref 2022

Mae GINA WILLIAMS A GUY GHOUSE yn defnyddio’u cerddoriaeth a’u perfformiadau i dynnu sylw at un o’r ieithoedd mwyaf hardd a phrin ar y blaned; iaith Noongar o gornel ddeheuol Gorllewin Awstralia.

Fel cyswllt at orffennol toredig, maen nhw wedi penderfynu bod yn ysgogwyr ar gyfer dyfodol llawn gobaith, gan ailysgrifennu’r sgript drwy gân. Oherwydd yr unig ffordd o ymdopi â thrawma rhwng cenedlaethau yw cynnig iachâd a gwahodd pawb yn ôl o amgylch y tân.

Mae’r ddeuawd wedi ennill sawl gwobr, ond peidiwch â gadael i hynny eich twyllo  – byddai’n llawer gwell ganddyn nhw adael i’w perfformiadau a grym y gerddoriaeth maen nhw’n ei chreu siarad drosti hi ei hunan.

Oherwydd er bod llai na 400 o siaradwyr Noongar ar ôl, mae eu gwaith bob amser wedi bod am yr hyn sy’n ein cysylltu. Does dim angen i chi ddeall y geiriau; mae cariad, colled a llawenydd yn golygu’r un peth waeth sut rydych chi’n eu dweud.

MWY GAN GINA WILLIAMS A GUY GHOUSE