Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Hanes Miwsig Caerdydd: City of Sound

Hanes Miwsig Caerdydd: City of Sound

26 Hydref – 23 Tachwedd 2022

Arddangosfa yw CITY OF SOUND sy’n dathlu sîn gerddoriaeth Caerdydd.

Mae Hanes Miwsig Caerdydd wedi creu archif ffisegol a digidol sy’n cyfleu straeon a hanes cerddoriaeth o’r brifddinas. Mae’r arddangosfa’n cynnig ciplun o eitemau o’r archif; fel posteri, taflenni, tocynnau, recordiau, a ffotograffau sy’n dod yn fyw drwy gyfweliadau gyda phobl o sîn gerddoriaeth Caerdydd.

Mae City of Sound yn dathlu’r gigs rydyn ni’n eu cofio a’u caru, y DJs y dawnsion ni iddyn nhw, y lleoliadau rydyn ni’n gweld eu heisiau, y clybiau nos, yr isddiwylliannau, a sut mae cerddoriaeth wedi dylanwadu arnon ni a’n dinas.

Archif a adeiladwyd drwy gefnogaeth pobl yw Hanes Miwsig Caerdydd, ac mae’r holl eitemau wedi cael eu rhoi gan unigolion neu wedi’u casglu drwy arian gan gefnogwyr Patreon.

Arddangosfa am ddim yn y cyntedd yw Hanes Miwsig Caerdydd: City of Sound a fydd ar agor drwy gydol yr ŵyl. Dysgwch fwy am ein rhaglen am ddim.