Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Pussy Riot: Riot Days

Pussy Riot: Riot Days

28 Hydref 2022

Eleni yn Llais, rydyn ni wrth ein bodd i fod yn croesawu PUSSY RIOT a fydd yn perfformio eu sioe Riot Days am y tro cyntaf yng Nghymru. 

Ers ffurfio yn 2011 mae Pussy Riot, y grŵp protest ffeministaidd o Rwsia, wedi dod yn adnabyddus am eu perfformiadau roc pync gerila pryfoclyd a diawdurdod mewn mannau cyhoeddus anghyffredin, a oedd yn cael eu cynnwys mewn fideos cerddoriaeth a'u cyhoeddi ar y rhyngrwyd.

Daeth y grŵp i enwogrwydd pan wnaeth pump o'r aelodau gynnal perfformiad Punk Prayer yn Eglwys Gadeiriol Crist y Gwaredwr yn Moscow yn 2012. Ar 17 Awst 2012, cafodd tair aelod o Pussy Riot - Nadezhda Tolokonnikova, Maria Alyokhina ac Ekaterina Samutsevich - eu dyfarnu'n euog am hwliganiaeth wedi'i hysgogi gan gasineb crefyddol, ac roedd y tair yn y carchar am ddwy flynedd.

Yn sgil ymosodiadau gan Rwsio yn Wcráin, maent yn fwy perthnasol a hanfodol nag erioed. 

Sioe yw Riot Days sy'n seiliedig ar lyfr sydd â'r un enw wedi'i ysgrifennu gan un o aelodau Pussy Riot, Maria Alyokhina. Mae'n stori bersonol am brofiad Alyokhina fel aelod o'r grŵp: gweithredu yn y Sgwâr Coch a'r Eglwys Gadeiriol, cael ei harestio, yr achos llys dilynol a'i hamser yn y carchar. Mae'r sioe yn gyfuniad arloesol o gerddoriaeth fyw, theatr a fideo.

Cynhyrchir Riot Days gan Alexander Cheparukhin a'r cyfarwyddwr yw Yury Muravitsky – un o gyfarwyddwyr theatr blaenllaw Rwsia, sydd bellach yn gyfarwyddwr artistig y Theatr Taganka nodedig yn Moscow.