-
Sad 29 Hydref
Panel yn cyflwyno rhai o fenywod ysbrydoledig cerddoriaeth Cymru.
Ymunwch â ni am sgwrs gyda menywod sy’n arwain y ffordd, yn trafod eu taith, beth sy’n eu hysbrydoli a beth hoffen nhw i’r dyfodol ei gynnig.
Panelwyr: Aleighcia Scott (cantores a chyflwynydd ar BBC Radio Wales), Ffion Wyn Morris (trefnydd digwyddiadau), Emilie Parry Williams (cantores), Sarah Wrigley (The Fabs)
Cadeirydd: Eleri Morgan
Rhan o'n rhaglen Sgyrsiau rhad ac am ddim yn Llais ar lwyfan Glanfa.