Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Sgyrsiau: Troeon Machlud

Sgyrsiau: Troeon Machlud

29 October 2022

Ymunwch â Kiddis, Saynab, Ibado, Aroosha, Amber, Marwa a Muna wrth iddyn nhw drafod y prosiectau Map Sonig a Throeon Machlud diweddar a oedd yn canolbwyntio ar gysylltu tair cymuned ledled Caerdydd drwy gerddoriaeth – Grangetown, Y Sblot a Llanrhymni.

Mae’r teithiau cerdded yn gyfle i bobl ifanc chwalu rhwystrau, creu cysylltiadau a rhannu sgiliau. Bydd y drafodaeth hon yn archwilio cynaliadwyedd a phosibilrwydd byw yng Nghaerdydd o safbwynt person ifanc, gan rannu beth sydd ar gael yn lleol a beth maen nhw am ei newid neu ei herio. 

Mae’r sgwrs hon wedi cael ei llunio mewn cydweithrediad â Fahadi Mukulu a bydd yn cynnwys ffilm, sain a pherfformiad byw. 

Cafodd y prosiect ei drefnu gan yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig a Thŷ Cerdd a’i gefnogi gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy’r gronfa Gaeaf Llawn Lles.  

Llun o Kiddus Murrell gan Njinkeng Asonganyi 

Rhan o’n rhaglen Sgyrsiau rhad ac am ddim yn Llais ar lwyfan y Glanfa.