Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Bat For Lashes

Bat For Lashes

11 Hydref 2023

Darganfyddwch artistiaeth hudolus Bat For Lashes, ac ymgollwch yn ei byd unigryw ac eithriadol yn yr ymddangosiad byw prin yma.

Bat For Lashes yw enw llwyfan Natasha Khan, artist a cherddor aml-ddisgyblaethol Prydeinig-Pacistanaidd sy’n byw yn Llundain, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth dros y 15 mlynedd diwethaf fel un o berfformwyr mwyaf cyfareddol Prydain.

Gyda phum albwm stiwdio, mae wedi cael ei henwebu am y Wobr Mercury deirgwaith ac am Wobr BRIT deirgwaith, ac mae wedi ennill dwy wobr Ivor Novello am Gân y Flwyddyn a Thrac Sain Gorau.

Mae Khan wedi meithrin dilynwyr ffyddlon gyda’i sioeau byw sydd wedi’u coreograffu’n fanwl, gan gyfuno caneuon mynegol a thywyll, gwaith celf gweledol trawiadol a pherfformiadau gafaelgar.

Gyda rheolaeth lwyr a churadu gofalus, gweledydd yw Bat For Lashes sy’n cymryd risgiau heb ofn i greu sbectaclau syfrdanol.

Mae gigiau Bat For Lashes yn brin, sy’n golygu bod ei phresenoldeb hyd yn oed yn fwy arbennig. Rydyn ni wrth ein bodd i’w croesawu i’n Theatr Donald Gordon ym mis Hydref.

Amser dechrau: 8pm

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.