Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Battlescar: Punk was Invented by Girls

Battlescar: Punk was Invented by Girls

25 Medi – 5 Tachwedd 2023

Cyfres ffilm VR wedi’i hanimeiddio mewn tair rhan lle byddwch chi’n plymio i mewn i fyd pync dau berson ifanc yn eu harddegau ar ffo sy’n byw yn Efrog Newydd ar ddiwedd yr 1970au.

Dewch i gwrdd â Lupe, merch Puerto Ricaidd-Americanaidd 16 oed, wedi’i lleisio gan Rosario Dawson, a Debbie, rebel sydd â chefndir dirgel. Mae angen cartref ar Lupe, mae Debbie eisiau rhywun sy’n ei deall, a gyda’n gilydd maen nhw’n ffurfio band pync ac yn mwynhau’r ddinas. 

Mae’r ddrama yma am dyfu i fyny yn creu naws egni pync-roc Efrog Newydd – cyflym a chaled ac yn llawn ideoleg gwrth-awdurdodaidd, negeseuon gwleidyddol a gwrthryfel gan yr ifanc. 

I ddathlu 5 mlynedd ers ei ryddhau, caiff Battlescar ei gyflwyno fel profiad gosodwaith gwreiddiol, gan ail-greu ymddangosiad a theimlad bar pync yn ne-ddwyrain Manhattan.     

Yn dilyn y profiad VR, byddwch chi hefyd yn gallu ymweld â Wasteland of my Fathers – arddangosfa yn archwilio’r byd pync yng Nghymru, wedi’i churadu gan David Taylor/Hanes Miwsig Caerdydd. 

Plymiwch i mewn. Neu peidiwch. Does dim ots gyda ni.  

Amser agor:
Maw – Sad 12pm – 9pm (slot olaf am 8pm)
Sul + Llun 12pm – 6pm (slot olaf am 5pm)

Hyd y profiad: Mae'r profiad VR yn para 30 munud. Caniatewch awr i gynnwys amser sefydlu ac i archwilio'r arddangosfa wedyn.

Capasiti: 8

Oed: 13+. Rhaid i bawb o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Rhybuddion: Iaith gref; defnydd o alcohol a gyffuriau

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Oes – mae angen talu am y profiad ac mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYW BETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i realiti rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd â nam ar y clyw neu'r golwg, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, ffitiau, salwch teithio neu byliau llewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn ni'n glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Ni chaniateir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chaniateir i unrhyw un sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau gymryd rhan yn y profiad.

CLODRESTR

CREWYD GAN
Martín Allais a Nico Casavecchia

YSGRIFENNWYD GAN
Nico Casavecchia a Mercedes Arturo

CYNHYRCHWYD GAN
Atlas V, Albyon, 1STAveMachine

CYD-GYNHYRCHU
Arte France, Oculus, Atlas V, RYOT

CYFLWYNIR GAN
Astrea