Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Dangosiadau Archif Ddarlledu Cymru

Dangosiadau Archif Ddarlledu Cymru

14 – 15 Hydref 2023

Dros y penwythnos, dewch i wylio dangosiadau rhad ac am ddim (ond â thocynnau) o ffilmiau a theledu clasurol Cymreig mewn cydweithrediad ag Archif Ddarlledu Cymru.

THE DRAGON HAS TWO TONGUES

14 Hydref, 3.30pm, Stiwdio Weston

Cyfle prin i wylio pennod o’r gyfres ddogfen hynod ddylanwadol am hanes Cymru a gafodd ei darlledu yn 1985. Bydd sesiwn holi ac ateb gyda chynhyrchydd y gyfres Colin Thomas a Tad Davies yn dilyn.

Tocynnau

SuperTed

15 Hydref, 11am, Stiwdio Wolfson

Penodau clasurol o’r gyfres wedi’i hanimeiddio Gymreig boblogaidd SuperTed, a gafodd ei darlledu rhwng 1982 a 1986. Yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg.

Tocynnau

Two hands hold a stone head that has been brought out of muddy water.

Stone Club yn cyflwyno O'r Ddaear Hen

15 Hydref, 4.15pm, Stiwdio Wolfson

Ymunwch â Stone Club ar gyfer dangosiad o O’r Ddaear Hen, a argymhellwyd yn gyntaf gan aelod o’r Stone Club sef Gruff Rhys, a welodd y ffilm am y tro cyntaf yn 1981 yn yr ysgol. Mae O’r Ddaear Hen cystal â theledu arswyd gwerinol gorau’r 70au a’r 80au; mae’n hunllefus, yn hynod ryfedd ac wedi aros ym meddyliau pawb sydd wedi’i gwylio. Mewn cydweithrediad ag Archif Ddarlledu Cymru.

Tocynnau