Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Uchelgais Grand yn cyflwyno Under Milk What?

Uchelgais Grand yn cyflwyno Under Milk What?

11 Hydref 2023

Darn cyffrous wedi’i ysgrifennu gan The Actor’s Group o Abertawe ac wedi'i gyfarwyddo gan Lee Mengo yw Under Milk What?.

Byddwch chi’n cwrdd â’r cymeriadau enwog o Under Milk Wood, ond maen nhw wedi cael eu hailddychmygu i bwy fydden nhw heddiw... mae Polly Garter yno... ond nawr mae hi’n 2023... mae hi’n byw yn Abertawe... ac yn seren Only Fans. 

Cafodd y darn yma ei datblygu fel rhan o gydweithrediad rhwng yr adran Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac Uchelgais Grand Abertawe. Daeth yr ymarferydd theatr gorfforol Ellie Evans i weithio ar y prosiect i helpu i ailddychmygu’r darn a datblygu dealltwriaeth yr actorion o ddefnyddio theatr gorfforol o fewn y perfformiad.  

Amser dechrau: 8pm

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen tocyn. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich tocyn ymlaen llaw i osgoi unrhyw siom.